Llangïan

pentref yng Ngwynedd

Pentrefan yng nghymuned Llanengan, Gwynedd, Cymru, yw Llangïan[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ) Saif ar Benrhyn Llŷn, gerllaw Afon Soch a fymryn i'r gogledd-orllewin o Abersoch. Enillodd y pentref wobr y pentref taclusaf yng Nghymru nifer o weithiau yn ystod y 1950au a'r 1960au.[angen ffynhonnell]

Llangïan
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.827°N 4.532°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH295288 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Hanes golygu

Mae'r eglwys yn gysylltiedig â theulu Nanhoron, ac mae cofeb ynddi i'r Capten Timothy Edwards a fu farw o dwymyn ar fwrdd llong yn 1780. Rhoddodd ei weddw, Catherine Edwards dir i godi'r Capel Newydd i'r Piwritaniaid cynnar.

Ym mynwent yr eglwys mae carreg fedd o'r 5ed neu'r 6g, gydag arysgrif Lladin arni: MELI MEDICI / FILI MARTINI / IACIT. Gellir ei gyfieithu fel "(Carreg) Melus y meddyg, mab Martinus. Mae'n gorwedd (yma)". Mae cael cyfeiriad at broffesiwn yr ymadawedig yn brin iawn ar y cerrig beddi cynnar hyn, a dyma'r unig gyfeiriad at feddyg sydd wedi goroesi o'r cyfnod yma yn Ynysoedd Prydain.

Brodor o Langïan oedd y llenor a'r hynafiaethydd John Jones (Myrddin Fardd).

Llyfryddiaeth golygu

  • Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)
  • Gruffudd Parry, Crwydro Llŷn ac Eifionydd (Llyfrau'r Dryw, 1960)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 23 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU