Llangwyryfon

pentref yng Ngheredigion

Pentref bychan yn sir Ceredigion yw Llangwyryfon, yn yr hen amser Llangwyryddon. Saif ar y ffordd B4576, tua naw milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth. Mae Afon Wyre yn llifo trwy'r pentref.

Llangwyryfon
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth596 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,188.36 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.316°N 4.057°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000383 Edit this on Wikidata
Cod OSSN599707 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Cysegrwyd yr eglwys i'r Santes Ursula a'r unarddeg mil o wyryfon a ferthyrwyd gyda hi. Roedd yr hen eglwys ynghanol y fynwent, ond yn 1879 adeiladwyd eglwys newydd tu allan i'r fynwent.

Cofnodir i Daniel Rowland, William Williams (Pantycelyn) a Howel Harris gynnal seiadau yma rhwng 1743 a 1750.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Rhyfel y Sais Bach golygu

Ar 14 Mai 1826 (198 blynedd yn ôl) – daeth 700 o Gymry at ei gilydd yn yr hyn a elwir yn Rhyfel y Sais Bach - gan atal Augustus Brackenbury, tirfeddiannwr cyfoethog o Swydd Lincoln rhag codi plasty yn Llangwyryfon. Yn dilyn y gwrthdaro, a dymchwel waliau'r adeilad, Ffodd am ei fywyd yn ôl i Loegr.[3]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangwyryfon (pob oed) (596)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangwyryfon) (342)
  
59.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangwyryfon) (345)
  
57.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llangwyryfon) (73)
  
29.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; gol: John Davies; tud 818.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]