Llangynllo, Powys

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref bychan a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llangynllo[1] (Saesneg: Llangunllo).[2] Fe'i lleolir ar y B4356 10 milltir i'r gogledd o dref Llandrindod, 4 milltir i'r gorllewin o Dref-y-clawdd a'r ffin â Lloegr. Llifa Afon Llugwy drwy'r pentref.

Llangynllo
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth369 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4,827.17 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.3346°N 3.1585°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000310 Edit this on Wikidata
Cod OSSO211713 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map
Am y pentref o'r un enw yng Ngheredigion, gweler Llangynllo, Ceredigion.
Llangynllo

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd yr eglwys gan Sant Cynllo. Yn y plwyf ceir sawl ffynnon iachaol, yn cynnwys Ffynnon Lwli ar fferm Ffynnon Wen, Pistyll Cynwy a Ffynnon Haearn.

Ceir gorsaf reilffordd Llangynllo yno. Mae Trafnidiaeth Cymru yn galw yn yr orsaf.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangynllo, Powys (pob oed) (369)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangynllo, Powys) (28)
  
7.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangynllo, Powys) (150)
  
40.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llangynllo, Powys) (45)
  
28.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%
Lluniau gan Percy Benzie Abery

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 7 Tachwedd 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-31.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.