Pentref a chymuned ar benrhyn Gŵyr, yn sir Abertawe, yw Llanilltud Gŵyr[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Saesneg: Ilston).

Llanilltud Gŵyr
Mathcymuned, pentrefan Edit this on Wikidata
Poblogaeth537 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,897.91 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.594322°N 4.084867°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000572 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJulie James (Llafur)
AS/auGeraint Davies (Llafur)
Map

Yn y gymuned yma ceir Capel Sant Cennydd, lle roedd y gynulleidfa gyntaf o'r Bedyddwyr yng Nghymru yn addoli rhwng 1649 a 1660. Wedi adferiad y frenhiniaeth yn 1660, ymfudasant i Massachusetts yn yr Unol Daleithiau dan arweiniad John Miles. Yma hefyd mae Parc le Breos, lle ceir siambr gladdu Neolithig Parc le Breos Cwm.

Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentref Nicholaston. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 538.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Julie James (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Geraint Davies (Llafur).[2][3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014