Llanllawddog

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref bychan a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanllawddog. Gorwedd yng ngorllewin canolbarth y sir, tua 5 milltir i'r gogledd o dref Caerfyrddin ger y ffordd o'r dref honno i Llanbedr Pont Steffan ac ar yr hen ffordd sy'n cysylltu Llanpumsaint i'r gorllewin a Brechfa i'r dwyrain.

Llanllawddog
Mathcymuned, pentrefan Edit this on Wikidata
Poblogaeth703 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,205.98 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.95°N 4.23°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000535 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map

Cynrychiolir cymuned Llanllawddog yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]

Hanes golygu

Mae Llanllawddog yn un o dri phlwyf yn Sir Gaerfyrddin a gysylltir â'r sant Llawddog (Llawddog ap Dingad, ?6g).

Claddwyd yr ysgolhaig a chasglwr llawysgrifau Cymreig Iaco ab Dewi ym mynwent eglwys y plwyf. Brodor o Landysul ydoedd.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanllawddog (pob oed) (703)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanllawddog) (370)
  
53.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanllawddog) (467)
  
66.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanllawddog) (98)
  
34.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion golygu

Roedd y cyhoeddwr cynnar Dafydd Lewis, a gyhoeddodd y flodeugerdd Flores Poetarum Britannicorum yn 1710, yn frodor o Lanllawddog.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]