Llansadwrn, Ynys Môn

pentref ar Ynys Môn

Pentref yng nghymuned Cwm Cadnant, Ynys Môn, yw Llansadwrn[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn ne-ddwyrain yr ynys, tua hanner y ffordd rhwng Pentraeth a Biwmares. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Dindaethwy, cantref Menai.

Llansadwrn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2668°N 4.1549°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH561768 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map
Am y pentref o'r un enw yn Sir Gaerfyrddin, gweler Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin.

Eglwys Sadwrn Sant golygu

Eglwys Sadwrn Sant yw eglwys y plwyf, a sefydlwyd gan Sadwrn, a elwir hefyd yn Sadwrn Farchog, yn y 6g, er bod yr adeilad presennol yn llawer mwy diweddar. Tybir fod yr eglwys yn ganolfan i glas (cymuned neu fynachlog) ar y safle. Yn 1742 cafwyd hyd i garreg fedd yn y fynwent, sydd yn awr wedi ei gosod ym mur yr eglwys. Yn ôl Nash-Williams,[3] mae’r arysgrif arni yn darllen:

HIC BEATUS (-) SATURNINUS SE(PULTUS) (I)ACIT ET SUA SA[NCTA] CONIU(N)X PA(X) (VOBISCUM SIT)

Gellir ei gyfieithu fel:

Yma y claddwyd y bendigaid Saturninus a’i wraig sanctaidd. Boed heddwch iddynt.

Roedd Sadwrn yn frawd i Illtud, a fu farw rhwng 527 a 537, felly gellir dyddio’r garreg tua 530 O.C..

Pobl o Lansadwrn golygu

  • William John Griffith (1875-1931). Er iddo gael ei eni yn Aberffraw, magwyd yr awdur yn y pentref.
  • Wyn Roberts (1930 - 2013). Gweleidydd a newyddiadurwr
  • Eifion Roberts (1927 - 2019). Barnwr a gwleidydd a brawd y gwleidydd Wyn Roberts

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Rhagfyr 2021
  3. V.E. Nash-Williams, The early Christian monuments of Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1950)