Arddull ysgrifennu yr unigolyn yn ei law ei hun yw llawysgrifen. Mae llawysgrifen pob person yn unigryw, ond gall fod o arddull ffurfiol, megis teip i'r llaw.

Llythyr gan Galileo yn ei law.

Mae llawysgrifennu yn sgil motor gymhleth sydd yn cyfuno ysgogiadau synhwyrol, niwrolegol, a ffisiolegol. Mae'r gallu i ysgrifennu â'r llaw yn galw ar ganfyddiad a chraffter gweledol, y gallu i ddarllen a deall yr hyn a ysgrifennir sef llythrennedd, y system nerfol ganolog, ac anatomeg a ffisioleg yr esgyrn a'r cyhyrau yn y llaw a'r fraich.[1] Yn dibynnu ar ei lawdueddiad, gall berson ysgrifennu'n llawchwith, yn llawdde neu'n ddeuddeheuig.

Mae'n rhaid dysgu sut i ddarllen cyn dysgu sut i ysgrifennu. Mae'r mwyafrif o bobl yn dysgu sut i ysgrifennu tra'n blant drwy gopïo llythrennau neu symbolau. Dros flynyddoedd o ymarfer mae'r weithred o lawysgrifennu yn dod yn naturiol i bobl, ac mae'r unigolyn yn datblygu nodweddion ei hunan yn ei law. Mae llawysgrifen yn batrwm o ffurfiannau arferol, isymwybodol a ailadroddir gan yr ysgrifennwr.[1]

Oherwydd unigrwydd llawysgrifen, gellir ei defnyddio i wirio pwy yw awdur darn o ysgrifen. Mewn nifer o wledydd mae dadansoddi llawysgrifen yn ddull fforensig dilys o ymchwilio i awduraeth dogfennau y gellir ei ddefnyddio mewn llys barn.[1][2]

Mae rhai yn honni y gellir dadansoddi llawysgrifen i ganfod gwybodaeth am bersonoliaeth yr awdur, a gelwir hyn yn graffoleg. Er bod y syniad yn boblogaidd, nid oes tystiolaeth wyddonol ei bod yn wir ac felly ffug-wyddoniaeth yw graffoleg.[3][4]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Handwriting Examination: Meeting the Challenges of Science and the Law. Forensic Science Communications. Biwro Ymchwilio Ffederal (FBI) (2009). Adalwyd ar 8 Hydref 2014.
  2. (Saesneg) Software shows uniqueness of handwriting. New Scientist (30 Mai 2002). Adalwyd ar 8 Hydref 2014.
  3. (Saesneg) Graphology a pseudoscience. Eugene Register-Guard (9 Mai 1981). Adalwyd ar 8 Hydref 2014.
  4. (Saesneg) Ask the Scientists: Barry Beyerstein. PBS. Adalwyd ar 8 Hydref 2014.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: