Lleuwen Steffan

canwr Cymreig

Cantores a chyfansoddwraig yw Lleuwen Steffan (ganwyd 1979)[1] sy'n canu yn Gymraeg a Llydaweg. Mae hi'n perfformio dan yr enw Lleuwen[2][3] ac mae hi wedi defnyddio'r enw Lleuwen Tangi[3] yn ogystal. Mae hi'n fwyaf adnabyddus fel cyfansoddwraig caneuon barddononol. Mae ei cherddoriaeth yn cynnwys dehongliadau o emynau[2] yn ogystal â dylanwadau jazz a genres eraill. Mae hi hefyd wedi actio yn achlysurol gan ymddangos yn cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Merch yr Eog yn 2016[4].

Lleuwen Steffan
Clawr yr albwm Tân gan Lleuwen.
Clawr yr albwm Tân gan Lleuwen
Ganwyd1979 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.lleuwen.com Edit this on Wikidata

Bywyd personol golygu

Mae Lleuwen yn briod gyda'r bardd Lan Tangi yn Llydaw. Mae hi'n byw gydag anhwylder deubegwn[5][6] ac wedi goresgyn problemau gydag alcohol.[5] Mae ganddi ddau o blant[6], ac mae hi'n ferch i'r canwr Steve Eaves ac yn chwaer i'r awdures Manon Steffan Ros.

Albymau golygu

Gwobrau golygu

Enillodd wobr Prizioù yn 2012 ar gyfer yr albwm Llydaweg orau, ar gyfer ei halbwm Tân.

Lleuwen oedd enillydd cystadleuaeth Liet International 2013 gyda'i chân Ar Gouloù Bev[3].

Cyfeiriadau golygu

  1. "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 20 Hydref 2020.
  2. 2.0 2.1 "Lleuwen yn teithio capeli Cymru gyda'i albwm newydd". Golwg360. 2019-01-11. Cyrchwyd 2020-10-07.
  3. 3.0 3.1 3.2 ljazzn (2013-01-21). "Lleuwen wins Liet International". News, reviews, features and comment from the London jazz scene and beyond (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-07.
  4. "Merch yr Eog / Merc'h an Eog". Theatr Genedlaethol Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-30. Cyrchwyd 2020-10-07.
  5. 5.0 5.1 "Beti a'i Phobol, 1 Mawrth 2020". www.bbc.co.uk. 2020-03-01. Cyrchwyd 2020-10-07.
  6. 6.0 6.1 "Dau Begwn Lleuwen Steffan". BBC Cymru Fyw. 2020-03-02. Cyrchwyd 2020-10-07.
  7. "Acoustique". Discogs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-07.
  8. 8.0 8.1 8.2 "Lleuwen Steffan". Discogs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-07.
  9. "Gwn Glân Beibl Budr". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-01-21. Cyrchwyd 2020-10-07.