Llewellyn Heycock

arweinydd adnabyddus mewn llywodraeth leol ym Morgannwg

Arweinydd llywodraeth leol ac aelod amlwg o'r Blaid Lafur oedd Llewellyn Heycock, yn ddiweddarach yr Arglwydd Heycock o Dai-bach (12 Awst 190513 Mawrth 1990).

Llewellyn Heycock
Ganwyd12 Awst 1905 Edit this on Wikidata
Port Talbot Edit this on Wikidata
Bu farw13 Mawrth 1990 Edit this on Wikidata
Castell-nedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Eastern Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, gyrrwr trên, dyn tân Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Ganed ef yn nhref Port Talbot, a magwyd ef yn Nhai-bach gerllaw. Bu'n gweithio fel gyrrwr trenau am gyfnod. Daeth yn aelod o Gyngor Sir Forgannwg yn 1937, a bu'n gadeirydd y pwyllgor addysg o 1944 hyd 1974 ac yn gadeirydd y cyngor yn 1962-3. Daeth yn gadeirydd cyntaf Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg wedi ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974. Roedd ei gefnogaeth ef yn allweddol i sefydlu ysgolion Cymraeg yn yr ardal yma.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.