Llewelyn Morris Humphreys

Ganwyd y gangster Llewelyn Morris Humphreys (20 Ebrill 1899[1]23 Tachwedd 1965) yn Chicago yr Unol Daleithiau (UDA). Ei lysenwau yw Murray the Hump neu Y Camel ac roedd yn un o brif gynghreiriaid Al Capone. Cymry Cymraeg o Garno, Y Trallwng oedd ei rieni, Bryan Humphreys ac Ann Wigley.

Llewelyn Morris Humphreys
Murray a'i wraig Jeanne
Ganwyd1 Ionawr 1899 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
Bu farw23 Tachwedd 1965 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata

Ef a Jack "Machine Gun" McGurn, mae'n debyg, oedd arweinwyr a threfnwyr Cyflafan Sant Ffolant yn Chicago, 1929. Dyma gyflafan mwyaf gawaedlyd ac enwog y ganrif, pan ddilëwyd llawer o ddynion eu gelyn, y gangster Bugs Moran.

Roedd yn ddyn busnes effeithiol iawn, gan ei fod yn buddsoddi'r arian roedd yn ei wneud drwy dwyll a gamblo i mewn i fusnesau cyfreithlon, glân; golygai hyn mai unwaith yn unig y cafodd ei arestio ac ni chafodd ei gyhuddo o drosedd o gwbwl.

Sgwenodd John Morgan gofiant iddo dan y teitl No Gangster More Bold[2] Perthynas iddo yw cyn-lywydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley.


Cyfeiriadau golygu

  1. FBI - Manylion am Murray Humphreys adalwyd 29 Mai 2017
  2. Morgan, John; 1985. No Gangster More Bold Hodder & Stoughton Ltd; ISBN 9780340263877


   Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.