Lliniaru meintiol

Polisi ariannol anghonfensiynol yw lliniaru meintiol, y cyfeirir ato'n aml fel "QE" (o'r enw Saesneg quantitative easing), sydd yn cael ei ddefnyddio gan fanciau canolog yn yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig a'r Parth Ewro ers tua 2007 gyda'r bwriad o gynyddu faint o arian sy'n cylchredeg yn yr economi a lleihau chwyddiant er mwyn hybu'r economi a'i thynnu allan o'r dirwasgiad a ddechreuodd gyda'r argyfwng economaidd yn 2007.[1]

Mae banc canolog yn gweithredu lliniaru meintiol drwy brynu asedau ariannol o fanciau masnachol a sefydliadau corfforaethol a phreifat eraill gan godi prisiau'r asedau ariannol hynny a gostwng eu cynnyrch tra ar yr un pryd gynyddu'r sylfaen ariannol. Mae hyn mewn gwrthgyferbyniaeth i'r polisi mwy arferol o brynu a gwerthu bondiau llywodraeth tymor-byr er mwyn cadw graddfau llog cydrwng banciau at werth penodol.

Beirniadaeth golygu

Anghyfiawnder cymdeithasol golygu

Mae llawer o bobl yn beirniadu'r polisi hwn am yr effaith mae'n cael ar bobl llai breintiedig. Mae ffyndiau pensiwn yn dioddef gyda gwerth go-iawn pensiynau yn gostwng. Mae pobl cyffredin sydd â swm bach o arian mewn cyfrif banc yn gweld eu cynilion yn aros yn eu hunfan neu'n colli gwerth.[2]

Mae prisiau tai yn codi hefyd gyda'r canlyniad bod pobl ifainc yn eu cael yn gynyddol anodd i brynu tŷ cyntaf tra bod y rhai sy'n perchen mwy nag un tŷ, e.e. buddsoddwyr eiddo, yn elwa.

Mae adroddiad gan Banc Lloegr yn dangos mai'r cyfoethogion yn y DU sydd wedi elwa'n bennaf o'r polisi QE, gyda 40% o'r cynnydd a welwyd yn yr economi yn mynd i 5% o deuluoedd y DU.[3] Honnir mai ffordd o ailddosbarthu cyfoeth i'r rhai sy'n gyfoethog iawn yn barod a hynny ar draul y dosbarth gweithiol a'r dosbarth canol yw QE a'i fod felly yn achos sylfaenol anghydraddoldeb economaidd a chymdeithasol.[4]

Gwledydd BRICS golygu

Mae'r gwledydd BRICS (Brasil, Rwsia, India, Tsieina a De Affrica) wedi beirniadu polisïau QE banciau canolog y Gorllewin. Maent yn dweud bod y polisïau hyn yn gyfystyr ag 'amddiffyniaeth' (protectionism) a dadchwyddiant cystadleuol. Fel allforwyr net gyda'u harian cyfred wedi'i ieuo wrth werth y doler, cwynant fod QE yn achosi chwyddiant yn eu gwledydd hwy ac yn cosbi eu diwydiannau.[5][6]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Loose thinking", The Economist. 15 Hydref 2009.
  2. M. Nicolas J. Firzli, dydynwyd gan Sinead Cruise (4 Awst 2012). "'Zero Return World Squeezes Retirement Plans'". Reuters gyda CNBC. Ad-dalwyd 5 Awst 2012.
  3. Elliott, Larry (23 August 2012). "Britain's richest 5% gained most from quantitative easing – Bank of England". London: The Guardian. Ad-dalwyd 21 Mai 2013.
  4. Frank, Robert. "Does Quantitative Easing Mainly Help the Rich?". CNBC. Ad-dalwyd 21 Mai 2013.
  5. John Paul Rathbone a Jonathan Wheatley, "Brazil's finance chief attacks US over QE3", Financial Times, 20 Medi 2012.
  6. Richard Blackden, "Brazil president Dilma Rousseff blasts Western QE as monetary tsunami", The Telegraph, 10 Ebrill 2012.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: lliniaru meintiol o'r Saesneg "quantitative easing". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
  Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.