Llithren

llithren chwarae

Mae'r llithren yn strwythur sy'n ei gwneud hi'n bosibl i ddisgyn trwy lithro o un pwynt i'r llall. Gellir gwneud y strwythur hwn o wahanol ddeunyddiau (plastig, pren, metal), ac fe'i bwriedir ar gyfer gwahanol ddefnyddiau, megis chwarae, symud pobl ar frys neu gludo deunyddiau.

Llithren
Enghraifft o'r canlynolcategori o gynhyrchion Edit this on Wikidata
Mathllithren, offer chwarae awyr agored Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llithren anferth mewn parc antur

Mae categori llithren yn cael eu defnyddio'n arbennig ar feysydd chwarae, parciau difyr ac yn fwy penodol mewn parciau dŵr.

Hanes golygu

Codwyd y sleid maes chwarae cyntaf cynharaf yn ardal chwarae "Neighbourhood House" Washington DC rywbryd rhwng sefydlu'r "Neighbourhood House" yn gynnar yn 1902 a chyhoeddi delwedd o'r llithren ar 1 Awst 1903 yn Evening Star (Washington DC ).[1][2] Agorodd y sleid bambŵ cyntaf yn Ynys Coney ar gyfer busnes ym mis Mai 1903, felly nid yw'n glir pa lithriad oedd gyntaf - sleid y maes chwarae neu sleid y parc diddan.[1]

Mathau o lithrenni golygu

Ceir sawl gwahanol fath o lithren, nifer ohonynt wedi eu cynnwys fel reid ffair neu mewn parc cyhoeddus:

  • Llithren Sbiral - gwelir y llithren droellog mewn parciau chwarae plant lle bydd y llithren wedi ei lapio o gwmpas polyn canolog i ffurfio troellog isaf sy'n ffurfio sglefrwr helter syml
  • Llithren Ton - llithren sydd â thonnau yn ei siâp, gan achosi i'r person lithro i fyny ac i lawr ychydig wrth i ddisgyn
  • Llithren Twib - llithren oddi fewn i diwb. Gall y llithren yn aml igam-ogami neu ystumio a bod a twmpenni ysgafn ynddi i greu mwy o antur
  • Llithren Syth - llithren syml, wastad sydd ar ongl am lawr
  • Llithren Parc Diddan - fel arfer ceis llithenni mwy gyda mwy o gwymp ac yn aml rhoi'r mat i'r defnyddiwr eistedd arno wrth deithio ar y llithren er mwyn lleihau ffrithiant ar gyfer cyflymder uwch ac i ddiogelu dillad
  • Llithren Plymio - llithen sy'n gollwn y person ar ostyngiad fertigol neu bron yn fertigol (ceir enwau anturus fel 'death slide' a 'free fall slide' arnynt yn y parciau)
  • Llithren Ddŵr - sleidiau llithrig a phoblogaidd iawn mewn parciau diddan ac hamdden. Bydd y llithren fel rheol yn gwagio fewn i bwll nofio neu pwll o ddŵr
  • Dwmbwr-dambar - math o lithren sy'n troelli o gampas tŵr

Enw golygu

Ar lafar defnyddir y gair sleid yn aml, sy'n addasiad o'r gair Saesneg, slide. Mae'r gair "llithren" yn y Gymraeg yn dyddio yn ôl i o leiaf 1862.[3]

Cofnodwyd y gair yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru fel; "arwyneb lyfn gogwyddol ar gyfer llithro nwyddau trymion ar hyd-ddo o un lle i'r llall; dyfais debyg wedi ei gosod mewn maes chwarae &c er difyrrwch i blant, man i lithro neu ysglefrio arno; sleid".[3]

Llithrenni Cymru golygu

O bosib llithren enwocaf a mwyaf Cymru yw'r rhai ym mharc diddan Oakwood, ger Arberth yn Sir Benfro. Yno ceir y 'Waterfall'[4] un adnodd gyda dau lithren ddŵr yn disgyn allan ohoni, lle bydd y person yn eistedd ar sled rwber wrth lithro ar ddŵr.[5][6]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

Oriel golygu