Erthygl am Ludd fab Beli yw hon. Gweler hefyd Lludd Llaw Eraint.

Cymeriad o hanes traddodiadol Cymru sy'n frenin ar Ynys Prydain yn y chwedl Cyfranc Lludd a Llefelys yw Lludd fab Beli. Yn ôl yr achau Cymreig roedd yn un o blant Beli Mawr ac felly yn frawd i Gaswallon fab Beli; yn y Gyfranc mae'n frawd i Lefelys hefyd. Yn ôl rhai ffynonellau mae'r dduwies Dôn yn ferch Beli ac felly'n chwaer i Ludd, ond nid yw'n chwarae rhan yn ei hanes. Yn ôl Sieffre o Fynwy mae Niniaw yn frawd iddo hefyd. Enwir Afarwy yn fab iddo (gweler isod). Ni ddylir cymysgu Lludd fab Beli a'r duw Lludd Llaw Eraint, sydd yn ei dro yn gysylltiedig â Nudd.

Prif ffynhonnell ein gwybodaeth am Ludd yw Cyfranc Lludd a Llefelys, chwedl a oedd yn cylchredeg erbyn tua 1200 ond sy'n cynnwys deunydd hŷn yn ogystal â deunydd a addaswyd o waith Sieffre o Fynwy. Yn y gyfranc (chwedl), mae Lludd, fel mab hynaf Beli Mawr, yn etifeddu ei deyrnas ac yn frenin ar Brydain â'i lys yn Llundain. Ynys Prydain yw ei deyrnas, sef gwlad y Brythoniaid (yn y chwedl mae Lludd yn darganfod canol union yr "ynys" yn Rhydychen). Adroddir yn y chwedl sut y bu Tair Gormes yn aflonyddu'r deyrnas ac sur y llwyddodd Lludd i gael gwared arnynt trwy ddilyn cyngor ei frawd Llefelys, brenin Ffrainc trwy briodas.

Ceir dau o Drioedd Ynys Prydain sy'n cyfeirio ato. Yn y triawd 'Tri Gwarth a fu yn Ynys Prydain' enwir Afarwy yn fab iddo.[1] Y pwysicaf o'r ddau driawd yw 'Tri Chudd a Datgudd Ynys Prydain'.[2] sy'n cyfeirio at hanes y Ddraig Goch a'r Ddraig Wen a gladdwyd gan Ludd "yn Ninas Emrys yn Eryri" (gweler Cyfranc Lludd a Llefelys).

Cyfeiria Brut y Brenhinedd, gan ddilyn Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy, at Ludd fab Beli (Lud f. Heli gan Sieffre) yn ailadeiladau dinas Llundain a enwir yn Gaer Ludd ar ei ôl, ond chwedl onomastig ydyw. Dywed yr un ffynhonnell fod Lludd yn cael ei gladdu ym Mhorth Ludd (Ludsgate) ac iddo gael ei olynu gan ei frawd Caswallon am fod ei feibion Afarwy (Adrogeus) a Thenefan (Tenvantius) yn rhy ifanc i deyrnasu.

Ceir sawl cyfeiriad at Ludd fab Beli mewn testunau cynnar, e.e. y cerddi 'Gwawd Lludd y Mawr' ac 'Ymarwar Lludd Bychan' (neu 'Ymarwar Lludd a Llefelys'), testunau darogan yn Llyfr Taliesin. Cyfeiria'r bardd llys Llywelyn Fardd at 'ymarwar Lludd a Llefelys'. Ceir sawl cyfeiriad yng ngwaith y Cywyddwyr yn ddiweddarach hefyd.

Ymddengys fod cymysgu rhwng Lludd a'i frawd Caswallon yn digwydd yn y traddodiad Cymreig gan fod rhai fersiynau o un o'r Trioedd yn cyfeirio at ddyfodiad y Coraniaid yn oes Caswallon tra bod Cyfranc Lludd a Llefelys yn eu cysylltu â Lludd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Rachel Bromwich (gol.) Trioedd Ynys Prydein (1961; arg. new. 1991), Triawd 51.
  2. Rachel Bromwich (gol.) Trioedd Ynys Prydein (1961; arg. new. 1991), Triawd 37.

Llyfryddiaeth golygu

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (1961; arg. new. 1991)
  • Ifor Williams (gol.), Cyfranc Lludd a Llefelys (Bangor 1910; arg. newydd 1922)