Y faner genedlaethol a chwifir gan longau sifil (masnachol ac eraill) yw lluman sifil.

Llumanau sifil gwledydd golygu

Gall y llumanau sifil sy'n wahanol i'r faner genedlaethol cael eu rhannu i bum categori.

Llumanau Cochion sy'n dilyn y dyluniad Prydeinig golygu

Dyma faneri cochion sydd, gan amlaf, gyda'r faner genedlaethol briodol neu Faner yr Undeb yn y canton, yn dilyn dyluniad y Lluman Coch Prydeinig. Mae tiriogaethau tramor Prydeinig naill ai'n defnyddio'r Lluman Coch plaen neu Luman Coch gyda'r arfbais drefedigaethol briodol yn y fly.

Y Deyrnas Unedig[1]

 

Ynys y Garn

 

Ynys Manaw

 

Yr Ynysoedd Virgin Prydeinig

 

Ynysoedd y Malvinas

 

Gibraltar

 

Ynysoedd Cayman

 

Ynysoedd Turks a Caicos

 

Awstralia[2]

 

Bahamas

 

Bangladesh

 

Fiji

 

Ghana

 

India

 

Malaysia

 

Mauritius

 

Pakistan

 

Seland Newydd

 

Ynysoedd Solomon

 

Yr Emiradau Arabaidd Unedig[3]

 

Llumanau sifil sy'n wahanol yn sylweddol i'r faner genedlaethol golygu

Mae gan rai gwledydd llumanau sifil sydd yn wahanol iawn i'r faner genedlaethol.

Albania

 

Israel

 

Lwcsembwrg

 

Malta

 

Singapôr

 

Llumanau sifil sy'n cynnwys y faner genedlaethol ag arwyddlun ychwanegol golygu

Cafodd y mwyafrif o'r arwyddluniau yma eu hychwanegu i wahaniaethu rhwng y lluman a baneri tebyg gwledydd eraill.

Colombia

 

Yr Eidal

 

El Salvador

 

Moroco[4]

 

Gwlad Pwyl

 

Saudi Arabia

 

Gweriniaeth Tsieina[5]

 

Baneri cenedlaethol symledig golygu

Mewn nifer o wledydd (yn bennaf America Ladin) mae yna dau fersiwn o'r faner, un syml (gan amlaf yn rhesog) ac un goethach gyda'r arfbais genedlaethol. Defnyddir yr un symlach fel lluman sifil (ac mewn nifer o achosion fel baner sifil), a defnyddir y fersiwn â'r arfbais yn bennaf gan y llywodraeth a'r lluoedd milwrol. Yn Sbaen mae'r faner heb yr arfbais dim ond ar gyfer defnydd sifil; defnyddir y faner genedlaethol fel lluman sifil.[6]

Yr Almaen

 

Awstria

 

Bolivia

 

Costa Rica

 

Gweriniaeth Dominica

 

Ecuador

 

Guatemala

 

Haiti

 

Periw

 

Sbaen

 

Venezuela

 

Llumanau sifil sy'n wahanol i'r faner genedlaethol o ran cyfraneddau golygu

Mae nifer o gyn-drefedigaethau Prydeinig yn defnyddio 1:2 fel cyfrannedd eu llumanau, ond 3:5 ar gyfer baneri ar dir. Mae hyn i'w wrthdroi yng ngwledydd y gyn Iwgoslafia: llumanau yn 2:3 a baneri ar dir yn 1:2.

Croatia

 

Grenada

 

Guyana

 

Slofenia

 

Y Swistir[7]

 

Trinidad a Thobago

 

Cyfeiriadau golygu

  1. Defnyddir y lluman coch plaen yn ogystal gan Jersey, Anguilla, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Montserrat, Ynysoedd Pitcairn, a Saint Helena.
  2. Defnyddir baner genedlaethol Awstralia ar gyfer llongau bychain hefyd.
  3. Defnyddir baner genedlaethol yr EAU fel lluman sifil hefyd.
  4. Defnyddir baner genedlaethol Moroco fel lluman sifil hefyd.
  5. Defnyddir baner genedlaethol Gweriniaeth Tsieina fel lluman sifil hefyd.
  6. (Sbaeneg)  Armada Española – La Bandera en la Armada. Gweinyddiaeth Amddiffyn Sbaen. Adalwyd ar 5 Mai, 2007.
  7. Defnyddir baner sgwâr y Swistir ar y mwyafrif o afonydd a llynnoedd.