Llus
Llus neu lusi duon bach ar Fynydd Aberdâr.
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Ericales
Teulu: Ericaceae
Genws: Vaccinium
Rhywogaeth: V. myrtillus
Enw deuenwol
Vaccinium myrtillus
L.

Planhigion bychain ac iddynt ffrwythau blasus yw Llus neu lusi duon bach (Lladin: Vaccinium myrtillus). Maent yn tyfu ar dir llaith, asidig trwy rannau o'r byd gyda hinsawdd gymhedrol.

Cesglir y ffrwythau o'r planhigyn gwyllt er mwyn eu bwyta, on nodweddiadol felly yn y Llychlyn, yr Alban, Iwerddon a Gwlad Pwyl. Yn Llychlyn, mae'n hawl i bawb hel llus, waeth pwy sy'n berchen ar y tir maent yn tyfu arno. Yn Iwerddon, gelwir y ffrwyth fraochán yn y Wyddeleg a fraughan yn y Saesneg, ac fe'u cesglir yn draddodiadol, ar y dydd sul olaf yng Ngorffennaf, a gelwir yn Fraughan Sunday.

Gellir bwyta'r ffrwythau'n ffres, neu eu defnyddio i wneud jam, sudd neu bastai. Yn Ffrainc, fe'u defnyddir yn sail i wirodlynnau, ac i roi flas i sorbet, a'r tarte aux myrtilles yw'r pwdin traddodiadol yn y Vosges a'r Massif Central. Yn Llydaw, caent eu bwyta gyda Crêpes. Mae hel llus ar y mynydd ar ddiwedd yr haf yn arfer poblogaidd hyd heddiw mewn rhannau o Gymru, e.e. yn Eryri, er ei bod hi'n cymryd amser i hel digon o'r ffrwythau bychain i wneud teisen blasus. Mis Awst yw'r amser gorau i hel llus (ond gweler yr adran Ffenoleg).

Ffenoleg golygu

Mae yna dystiolaeth bod y planhigyn yn ffrwytho'n sylweddol gynt dros yr hanner canrif hyd at 2020. Fe all hyn fod yn adlewyrchiad o Newid Hinsawdd.

Graff yn dangos newid yn nhymor ffrwytho llus (Vaccinium myrtillus) yng Nghymru dro hanner canrif
Graff yn dangos newid yn nhymor ffrwytho llus (Vaccinium myrtillus) yng Nghymru dro hanner canrif

Dynoda'r echel-x y flwyddyn a'r echel-y wythnos y flwyddyn 1-52(+20). Fe berthyn y 4 pwynt wedi eu cylchu mewn coch i'r flwyddyn 2015 ac o gadw y cynharaf yn unig byddai'r duedd arwyddocaol (r=0.41, P<0.01) yn gryfach eto. Mae'r pwyntiau yn annibynnol ar ei gilydd[1].
Dyma rai o'r cofnodion y seilir y data arnynt: "rhai ffrwythau yn llawn ac yn biws" (wythnos 25),"llus wedi duo"(27), "hel llus" (26,28,33...), "llond berfa o lus" (28). Mae'n werth nodi manylion y cofnod cynharaf gan Megan Jones a dynnodd lun ar Foelyci, Tregarth ym mis Mai 2020. Ei sylw oedd "Maen nhw wedi bod yn ofnadwy o gynnar blwyddyn yma, tynnais i'r llun yma ar Mai 19fed, Moelyci". Roedd dau lusyn yn amlwg yn y llun.
Prosiect Gwyddoniaeth y Dinesydd oedd hwn.

Cyfeiriadau golygu

  1. Bwletin Llên Natur 150 (yn y wasg 1/7/2020)
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: