Llwybr Llaethog (band)

Band dawns arbrofol Gymraeg yw Llwybr Llaethog, sy'n cymysgu genres megis rap, dub, reggae, hip hop a pync yn eu cerddoriaeth.

Llwybr Llaethog
Enghraifft o'r canlynolcynulliad cerddorol, band Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dod i'r brig1985 Edit this on Wikidata

Sefydlwyd yn Llundain, yn 1985 gan John Griffiths a Kevs Ford. Dylanwadwyd y ddau gan gerddoriaeth reggae a pync y 70au. Wedi sawl cais anllwyddiannus i greu band, cafodd John Griffiths ei ail-ysgogi tra ar wyliau yn Efrog Newydd yn 1984.[1] Roedd grŵp o bobol ifanc mewn clwb nos breakdancing, a seiniau DJ Red Alert wedi gadael argraff cryf arno.

Wedi dychwelyd i Gymru, roedd Griffiths yn benderfynol o briodi cerddoriaeth hip hop a gwleidyddiaeth y chwith eithafol gyda'r iaith Gymraeg. Daeth EP cyntaf Llwybr Llaethog, Dull Di Drais, allan ar label Anhrefn yn 1986.

Disgograffi golygu

Senglau golygu

Albymau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Wales Music : Llwybr Llaethog. BBC (30 Gorffennaf 2009).

Dolenni Allanol golygu