Llwybr arfordir Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe

Mae Llwybr arfordir Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe yn llwybr hir yn ne Cymru sy'n rhan o lwybr ehangach Llwybr Arfordir Cymru. Mae'n un o 8 llwybr o'i fath, ac mae'n 115 km o hyd o'r ochr orllewinol yng Nghasllwchwr, ar y ffin gyda Sir Gaerfyrddin, a'i ochr ddwyreiniol yn Nhywynnau Cenfig, sy'n ffinio gyda Castell-nedd Port Talbot. Ceir ar ei hyd 10 gwarchodfa natur, 24 o warchodfeydd yr Ymddiriedolaeth Natur, 32 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a 5 Ardal Gadwraeth Arbennig.

Llwybr arfordir Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe
Mathllwybr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolLlwybr Arfordir Cymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Hyd156 cilometr Edit this on Wikidata
Pen Pyrod - gyda'i chreigiau ar ffurf draig.

Ymhlith uchafbwyntiau'r daith y mae: Traeth Aberafan, Pen Pyrod (safle eiconig, gyda'r olygfa orau ohono o Fae Rhosili), goleudy haearn bwrw Trwyn Whiteford a'r Mwmbwls.

Is-lwybrau lleol golygu

Ceir nifer o lwybrau lleol, llai y gellir eu defnyddio ac sy'n cychwyn ger Llwybr yr Arfordir, er enghraifft:

  1. Taith Rhosili. Taith gylchol o dair milltir (4.8 km) a restrir fel un o ddeg taith gorau Cymru gan y Cerddwyr. O ran anhawster, fe'i disgrifir fel llwybr hawdd i'w cherdded ac ni ddylai gymryd mwy na theirawr o amser.[1] Y man cychwyn yw maes parcio Rhosili. Wyneb o laswellt sydd i'r llwybr gyda rhai mannau'n ro mân.
  2. Llwybr de Gŵyr (Bae Langland i Fae Caswell). Dyma lwybr hawdd i'w gerdded, gyda'i fan cychwyn ym maes parcio Langland. Mae'n llwybr cylchol o ddwy filltir ac o'r llwybr ceir golygfeydd arbennig o forloi llwyd, llamhidyddion a siarcod. Mae'r wiber yma mewn mannau hefyd, er nad yw'n hawdd eu canfod gan eu bont mor swil.[2]
  3. Port Einon to Oxwich. 7.2 km ydy hyd y llwybr yma, sy'n nadreddu drwy goedwig ac ambell ddibyn serth. Mae'n pasio Castell Oxwich a adeiladwyd yn y 16g gan Syr Rice Mansel er mwyn darparu llety moethus. Cysegrwyd yr eglwys yn Oxwich, sy'n dyddio o'r 13eg a'r 14g, i Sant Illtud. Gerllaw'r pentref mae traeth Bae Oxwich. Porth Einon ydy'r rhan mwyaf deheuol o Benrhyn Gŵyr.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhossili to Mewslade Bay". Swansea Bay, Mumbles and Gower. Cyrchwyd 13 Awst 2013. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)[dolen marw]
  2. "Langland Bay to Caswell Bay". Swansea Bay, Mumbles and Gower. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-12. Cyrchwyd 13 Awst 2013.