Llwyd ap Iwan

peiriannydd, fforiwr (1862-1909)

Tirfesurydd a fforiwr oedd Llwyd ap Iwan, a mab-yng-nghyfraith i Lewis Jones (20 Chwefror 186229 Rhagfyr 1909), a gafodd ddylanwad mawr ar hanes y Wladfa ym Mhatagonia.

Llwyd ap Iwan
Ganwyd20 Chwefror 1862 Edit this on Wikidata
y Bala Edit this on Wikidata
Bu farw29 Rhagfyr 1909 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin, Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, peiriannydd Edit this on Wikidata
TadMichael D. Jones Edit this on Wikidata
MamAnne Lloyd Jones Edit this on Wikidata
PlantMihangel Gruffydd ap Iwan Edit this on Wikidata
Llwyd ap Iwan

Bywgraffiad golygu

Roedd Llwyd Ap Iwan yn fab i Michael D. Jones, un o arloeswyr y syniad o sefydlu'r Wladfa. Daeth i Batagonia yn 1886 fel peiriannydd ar Reilffordd Canol Chubut, oedd yn cael ei hadeiladu i gysylltu'r Wladfa a Puerto Madryn.

Rhwng 1893–1894, rhwng 1894–1895 ac ym 1897, aeth ar deithiau i chwilio rhannau o'r wlad lle nad oedd unrhyw Ewropeaid wedi bod o'r blaen, gan ddefnyddio arweinwyr o blith y Tehuelche.

Tua dechrau'r 20g symudodd Llwyd ap Iwan a'i deulu i Gwm Hyfryd (a enwyd yn ddiweddarach yn Colonia 16 de octubre). Roedd yn gyfrifol am gangen Rhyd y Pysgod (Arroyo Pescado) o'r Compañía Mercantil del Chubut, tua 30 km o Esquel. Ar 29 Rhagfyr 1909, saethwyd Llwyd ap Iwan yn farw wrth i ddau fandit Americanaidd, Wilson ac Evans, geisio dwyn arian oddi yno.

Cred rhai awduron mai Butch Cassidy a'r Sundance Kid oedd y ddau yma, ond ymddengys fod y ddau yma eisoes wedi eu lladd ym Molifia cyn dyddiad y llofruddiaeth.