Llwyn cwrens duon

Ribes nigrum
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau craidd
Urdd: Saxifragales
Teulu: Grossulariaceae
Genws: Ribes
Rhywogaeth: R. nigrum
Enw deuenwol
Ribes nigrum

Planhigyn blodeuol collddail ag arni ffrwyth bwytadwy yw Llwyn cwrens duon sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Grossulariaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Ribes nigrum a'r enw Saesneg yw Black currant.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Rhyfon Duon, Coeden Gyrains, Cyrains Duon, Eurddraenen Ddu, Rhesinwydd Du, Rhesinwydd Duon, Rhyfwydd Duon, Rhyfwydden Ddu.

Mae'n perthyn yn agor i'r cwraints duon, cwraints cochion ac Eirin Mair. Mae hefyd yn perthyn i'r genws Ribus, sef tarddiad y gair masnachol Robena.

Enwau golygu

  • Yr enw generig Lladin yw Ribes, a addaswyd fel y brand-enw am ddiod honedig llesol Ribena

Mae’n debyg mai tarddiad yr enw Cymraeg “rhyfon” yw ribes hefyd. Dyma Eiriadur Prifysgol Cymry:

rhyf
[?bnth. dysg. Llad. Diw. rib(es), cf. rhyfwydd] eg. (bach. g. rhyfyn) ll. rhyfion, rhyfon (un. b. rhyfonen).
Cyrensen; eirinen Mair, gwsberen; aeronen; ?llwyn cyrans neu eirin Mair:
18-19g. Llr C 36 220, Berry … Rhŷf, Rhyfyn.
18-19g. Llr C 51 241, Rhyfonen Rhyfon … Rhŷf ribes, goosberies.
1801 MMf 292, Rhibes, rhyf … rhyfon.
1803 P, Rhyv, s. m.—pl. t. ion … a berry; a currant.
1813 WB 232, Rhyf: Rhyfon; Ribes;—Currant.
Ar lafar, ‘ryfon’ ‘cyrens’, GTN 699.
  • Roedd fy mam yn arfer galw cyrens cochion yn Ribiserl yn nhafodiaeth Almaeneg o Awstria. Mae'r Almaenwyr ‘go iawn’ yn cyfeirio at y ffrwythau duon fel Johanisbeere, hynny yw, aeron Ieuan.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: