Plantago major
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Lamiales
Teulu: Plantaginaceae
Genws: Plantago
Rhywogaeth: P. major
Enw deuenwol
Plantago major
Carl Linnaeus

Planhigyn blodeuol yw Llydan y ffordd sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Plantaginaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Plantago major a'r enw Saesneg yw Greater plantain.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Llwynfaidydd mawr, Llwynhidydd, Cabaits y llawr, Dail llydan y ffordd, Dail llyriad, Henllydan y ffordd, Llydan y ffordd, Llyriad cynffon llygoden, Llyriad mwyaf. Mae'n frodorol o'rrhan fwyaf o Ewrop a gogledd a chanol Asia.[2][3]

Mae Plantago major yn un o'r planhigion rhinweddol (meddygol) mwyaf cyffredin yn y byd. Gellir rhoi pwltis o'r dail yn uniongyrchol ar glwyfau i arbed heintiau. Caiff hefyd ei ddefnyddio i'w roi ar bigidau, briwiau a mannau tost. Y cemegolyn gweithredol ynddo yw aucubin, allantoin a mucilage. Gellir yfed te o'r dail er mwyn gwella'r dolur rhydd. O'i fwyta, mae hefyd yn llawn maeth gan ei fod yn cynnwys caslsiwm a fitamin A, C a K. Gellir bwyta'r dail ifanc heb eu coginio a'r dail hyn mewn cawl.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. Natural History Museum: Plantago major Archifwyd 2008-02-11 yn y Peiriant Wayback.
  3. Flora Europaea: Plantago major
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: