Llyfr Exodus

yr ail o Lyfrau Moses yn Hen Destament y Beibl; yr ail lyfr yn y Torah sy'n olrhain hanes yr ymadawiad

Ail lyfr y Pumllyfr yw Llyfr Exodus neu weithiau yn Gymraeg Ecsodus, ac felly ail lyfr y Tora a'r Hen Destament yn y Beibl. Hanes caethwasiaeth yr Iddewon yn yr Aifft, ei hymadawiad o'r wlad honno, a'u taith i Fynydd Sinai dan arweiniad Moses sydd yn y llyfr. Sonir ail hanner Exodus am y Cyfamod rhwng Duw ac Israel yn Sinai, a chyhoeddi'r gyfraith sy'n rheoli bywydau'r Iddewon. Yn ôl y traddodiad crefyddol, Moses ei hun yw awdur Llyfr Exodus.

Ffenestr gwydr lliw yn Notre-Dame de l'Épine sy'n dangos Moses a'r Iddewon yn croesi'r Môr Coch.
Chwiliwch am Llyfr Exodus
yn Wiciadur.