Llyfr Genesis

y cyntaf o Lyfrau Moses yn yr Hen Destament yn y Beibl; llyfr cyntaf y Tora

Llyfr cyntaf yr Hen Destament yn y Beibl, a'r Torah yw Llyfr Genesis neu Genesis (talfyriad: Gen.). O'r Lladin Llafar (Fwlgat) a siaredid yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig y daeth y gair 'Genesis' i'r Gymraeg, ac o'r gair Groeg Γένεσις, sy'n golygu 'tarddiad' neu'r 'dechreuad', y daeth i'r Lladin. בראשית (Bərēšīṯ) yw'r gair Hebraeg am 'Yn y dechreuad', sef yr enw ar y llyfr cyntaf yn y Beibl Hebraeg, y Tanakh a'r Hen Destament Cristnogol. Yn ôl y traddodiad Iddewig cafodd y llyfr ei ysgrifennu gan Moses, ond gwyddom heddiw ei fod yn waith sawl awdur diweddarach.

Dechrau Llyfr Genesis ym Meibl William Morgan

Cynnwys golygu

Mae Llyfr Genesis yn dechrau trwy ddisgrifio sut y creodd Duw y byd mewn saith niwrnod, hanes Adda ac Efa a'u danfon allan o Ardd Eden, stori Cain ac Abel eu meibion, a hanes Noa a'r Dilyw. Mae llawer o'r storïau hyn yn rhan o etifeddiaeth llên gwerin a mytholeg y Lefant a Mesopotamia.

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu

Chwiliwch am Llyfr Genesis
yn Wiciadur.