Llyfr ffraethebion

Casgliad o straeon doniol, cellweiriau, a chysetiau yw llyfr ffraethebion.[1] Roedd y ffurf lenyddol hon yn boblogaidd yn Lloegr yr 16g a'r 17g. Cafodd y llyfrau hyn eu priodoli i lenorion arabus megis John Skelton a George Peele neu groesaniaid a digrifwyr enwog megis John Scoggin a Robert Armin. Mae traddodiad y llyfr ffraethebion yn perthyn i'r ddihareb a'r wireb, ac i lenyddiaeth dihirod.[2]

Llyfr ffraethebion

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [jest: jest-book].
  2. The Oxford Companion to English Literature, gol. Dinah Birch (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009), t. 532.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddigrifwch neu gomedi. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.