Llyfrgell Alexandria

Llyfrgell Frenhinol Alexandria neu Lyfrgell Hynafol Alexandria yn Alexandria, yr Aifft, oedd un o lyfrgelloedd mwyaf ei maint a mwyaf arwyddocaol yr hen fyd. Roedd wedi'i hadeiladu i'r Awenau, naw duwies y celfyddydau. Ffynnodd o dan nawdd y frenhinlin Ptolemaidd a daeth yn brif ganolfan i ddysgeidiaeth o'i hadeiladu yn y 3g CC hyd nes i'r Rhufeiniaid goncro'r Aifft yn 30CC. Yn ogystal â'i chasgliadau o weithiau, roedd ganddi ddarlithfeydd, ystafelloedd cyfarfod a gerddi. Roedd y Llyfrgell yn rhan o sefydliad ymchwil mwy o'r enw Musaeum Alexandria, ble astudiodd nifer o feddylwyr enwocaf yr hen fyd.

Llyfrgell Alexandria
Mathllyfrgell ymchwil Edit this on Wikidata
LL-Q150 (fra)-Xenophôn-bibliothèque d'Alexandrie.wav Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMusaeum Edit this on Wikidata
LleoliadAlexandria Edit this on Wikidata
SirAlexandria Edit this on Wikidata
GwladÆgyptus Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.21°N 29.91°E Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolHellenistic architecture Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iMuse Edit this on Wikidata

Cafodd y Llyfrgell ei chreu gan Ptolemi I Soter, cadfridog o Facedonia ac olynydd Alecsander Fawr. Cadwyd y rhan fwyaf o lyfrau fel sgroliau papyrus. Ni wyddir i sicrwydd faint o sgroliau oedd yn cael eu cadw yno ar un adeg, ond mae amcangyfrifon yn amrywio o 40,000 i 400,000 pan oedd y Llyfrgell ar ei hanterth.

Mae'n debyg mai hyn sy'n gwneud y llyfrgell hon yn adnabyddus yw'r ffaith iddi gael ei llosgi'n ulw gan arwain at golli nifer fawr o'r sgroliau a llyfrau; mae ei dinistrio wedi dod yn symbol o golli gwybodaeth ddiwylliannol. Nid oes sicrwydd pryd y cafodd y Llyfrgell ei llosgi na phwy a wnaeth, ac mae'n bosib bod y Llyfrgell wedi wynebu sawl tân dros lawer o flynyddoedd.

Strwythur golygu

Ni wyddus union osodiad yr adeilad, ond ceir hen ddogfennau sy'n nodi fod yma gasgliadau o sgroliau, colofnau Groegaidd, peripatos, ystafell fwyta, ystafell ddarllen, ystafell gyfarfod a neuaddau darlithio. Roedd strwythur yr adeilad, o ran ei bensaerniaeth, felly, yn rhagflaenu prifysgolion. Gwyddom hefyd fod yma ystafell bwrcasu ac ystafell i gatalogio'r gweithiau a bod yma silffoedd a oedd yn dal casgliadau o sgroliau brwynbapur a elwid yn βιβλιοθῆκαι ('bibliotecai'). Uwch ben y silffoedd, ysgrifennwyd mewn llythrennau mawr: 'Yn y fan hon ceir gwellâd yr enaid'.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Manguel, Alberto, The Library at Night. New Haven: Yale University Press, 2008, t. 26.