Llyfrgell Frenhinol Denmarc

llyfrgell genedlaethol Denmarc, yng Nghopenhagen

Llyfrgell genedlaethol Denmarc a llyfrgell fwyaf Llychlyn yw Llyfrgell Frenhinol Denmarc. Sefydlwyd tua 1648 gan Frederik III. Lleolir heddiw ar bedwar safle: Fiolstræde (canol Copenhagen, gwyddorau cymdeithasol), Amager (dyniaethau), Nørrebro (gwyddorau naturiol a meddygol) a phrif safle Slotsholmen (pob maes). Adeiladwyd adeilad cyntaf safle Slotsholmen ym 1906 fel copi o gapel palas Siarlymaen yn egwlys gadeiriol Aachen. Agorwyd adeilad newydd yn gyfagos i'r hen un ym 1999, a adnabyddir fel y Diemwnt Du (Den sorte diamant) o achos ei orchudd o farmor a gwydr du. Mae'n cynnwys neuadd gyngerdd yn ogystal â'r llyfrgell.

Llyfrgell Frenhinol Denmarc
Mathllyfrgell genedlaethol, llyfrgell Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1648 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadSlotsholmen Edit this on Wikidata
SirBwrdeistref Copenhagen Edit this on Wikidata
GwladBaner Denmarc Denmarc
Cyfesurynnau55.6738°N 12.5822°E Edit this on Wikidata
Cod post1221 Edit this on Wikidata
Map
Y Diemwnt Du
Eginyn erthygl sydd uchod am Ddenmarc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.