Llyfrgell Genedlaethol Israel

llyfrgell yn Jeriwsalem

Saif Llyfrgell Genedlaethol Israel (Arabeg: المكتبة الوطنية في إسرائيل; Hebraeg: הספרייה הלאומית - HaSifria HaLeumit) ar gampws Prifysgol Hebraeg Jeriwsalem yn Givat Ram, Israel. Yr hen enw arni oedd 'Llyfrgell Iddewig a Chenedlaethol Israel'. Mae'r casgliadau wedi'u cyfyngu i ddiwylliant Iddewig neu i'r wlad ei hun.

Llyfrgell Genedlaethol Israel
Mathllyfrgell genedlaethol, llyfrgell academaidd, llyfrgell adnau cyfreithiol, llyfrgell gyhoeddus, statutory corporation Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1892 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadNational Library of Israel (Kaplan), National Library of Israel (Givat Ram) Edit this on Wikidata
SirJeriwsalem Edit this on Wikidata
GwladBaner Israel Israel
Cyfesurynnau31.777466°N 35.20319°E Edit this on Wikidata
Cod post9139002, 9195015 Edit this on Wikidata
Rheolir ganPrifysgol Hebraeg Jeriwsalem, Israel Edit this on Wikidata
Map

Ceir yn y llyfrgell dros 5 miliwn o lyfrau, yr un nifer â sydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Sefydlwyd hi yn 1892 yn Jeriwsalem dan yr enw 'Llyfrgell B'nai Brith'.

Yn 2007 pasiwyd y Mesur Llyfrgell Genedlaethol gan Knesset (Senedd Israel) [1] ac er 2008 mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn endid annibynnol, nad yw bellach yn rhan o Brifysgol Hebraeg Jerwsalem.

Oriel golygu

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu