Mae llyfrgell ddata, archif data, neu ystorfa ddata yn gasgliad o setiau data ar gyfer defnydd eilaidd mewn ymchwil. Fel rheol, mae'r llyfrgell ddata'n rhan o sefydliad academaidd, corfforaethol, gwyddonol, meddygol, llywodraethol, ac ati, a sefydlwyd ar gyfer archifo data ymchwil ac i wasanaethu defnyddwyr y sefydliad hwnnw.

Canolfan data Utah, UDA, a adnabyddir hefyd dan yr enw llawn: Intelligence Community Comprehensive National Cybersecurity Initiative Data Center.
Archifdy Data Prifysgol Essex

Mae'r llyfrgell ddata'n tueddu i gadw casgliadau data lleol ac yn darparu mynediad iddynt trwy wahanol ddulliau: CD- a DVD-ROMiau yn y gorffennol, gweinydd canolog lawrlwytho'r wybodaeth, erbyn y 2010au. Gall llyfrgell ddata hefyd danysgrifio i adnoddau data trwyddedig, global i'w hymchwilwyr eu defnyddio. Ystyrir y llyfrgell ddata hefyd yn archif data os yw'n cyrraedd y meincnodau canlynol:

  • mae daliadau'r casgliad yn unigryw,
  • cynigir gwasanaethau cadwraeth hirdymor, ac
  • mae'n gwasanaethu cymuned ehangach (fel y mae archifau data cenedlaethol yn ei wneud).

Rhestrir y rhan fwyaf o lyfrgelloedd data cyhoeddus ar Gofrestrfa Ystorfeydd Ymchwilio Data.

Yn Awst 2001, cadarnhawyd pwysigrwydd archifo data pan gyhoeddodd Cymdeithas Lyfrgelloedd Ymchwil (Association of Research Libraries (ARL)) bapur SPEC Kit 263: Numeric Data Products and Services Archifwyd 2006-12-08 yn y Peiriant Wayback., sef canfyddiadau arolwg i gyd-sefydliadau (aelodau o'r ARL), am eu gwaith yn casglu, cadw, cynnig gwasanaethau am eu hadnoddau data. Ystyrir y papur hwn yn garreg filltir hanesyddol o fewn y maes.

Rhai cymdeithasau golygu

Enghreifftiau o lyfrgelloedd ac archifdai data golygu

Gwyddorau Naturiol golygu

  • CISL Research Data Archive, Colorado
  • Dryad, archifdy meddygol yn Rhydychen
  • ESO/ST-ECF Science Archive Facility; ar-lein, seryddol
  • Paleoclimatology Data; amgylcheddol; UDA
  • Inter-university Consortium for Political and Social Research; Data ar wleidyddiaeth a chymdeithaseg; canolfan ym Mhrifysgol Michigan, UDA
  • Knowledge Network for Biocomplexity
  • National Archive of Criminal Justice Data [1]; cyfiawnder a chyfraith; UDA
  • National Climatic Data Center; pencadlys yng Ngogledd Carolina; adnabyddir hefyd dan yr enw: National Weather Records Center (NWRC)
  • National Snow and Ice Data Center NSIDC; lleoliad: Prifysgol Colorado, UDA
  • National Centers for Environmental Information (NCEI); rhan o Lywodraeth UDA
  • World Data Center; canolfan rhyngwladol; yn 2008 fe'i datgymalwyd i is-ganolfannau gan gynnwys World Data System (WDS)
  • Data Observation Network for Earth (DataONE); llwyfan i ddata amgylcheddol; sefydlwyd yn 2009 gan National Science Foundation. UDA

Gwyddorau cymdeithasol golygu

Am ryw reswm, o fewn y gwyddorau cymdeithasol, cyfeirir atynt fel "archifdai data". Sefydlwyd y cynharaf yn y 1950au.

Cyfeiriadau golygu