Llygoden (cyfrifiaduro)

Un o berifferolion y cyfrifiadur yw'r llygoden sy'n ffitio cledr eich llaw ac yn llywio'r cyrchwr neur saeth o gwmpas sgrin y cyfrifiadur. Mae'n synhwyro symudiad dau-ddimensiwn y llaw ac yn ei gymharu a'r bwrdd neu arwyneb llonydd oddi tano. Fel y bysellfwrdd mae'n ddyfais mewnbwn; yn hyn o beth mae hefyd yn hynod o debyg i bwyntiwr neu bensil graffig a ddefnyddir i symud neu ddewis gwybodaeth ar y sgrin. Ceir un neu ragor o fotymau ar y llygoden, er mwyn dewis elfen o wybodaeth e.e. yn arferol, mae'r prif fotwm (chwith) yn 'fotwm dewis' (select) y gellir ei wthio er mwyn dewis un o opsiynau ar dewislen, ar y sgrin.

Llygoden ddi=wifr, gyda'r cysylltiad USB i'r cyfrifiadur ar y dde.

Ymddangosodd y llygoden yn wreiddiol yn 1968. Defnyddiwyd pelen fechan i synhwyro cyfeiriad y symudiad, hyd nes y daeth y synhwyrydd optig yn boblogaidd, heb unrhyw ran symudol iddi. Yn wreiddiol, hefyd, roedd weiren (cynffon y llygoden!) yn ei chysylltu gyda'r cyfrifiadur, ond ers y 2010au dechreuwyd masnachu'r llygoden di-wifr.[1][2]

Y llygoden gyntaf i ymddangos: dyfais gan Douglas Engelbart, o'r Stanford Research Institute, a gynhyrchwyd yn 1964

Botymau golygu

Gellir gweithio'r botymau mewn gwahanol ffyrdd:

Un-clic (botwm chwith): y prif fotwm; dewis
Dau-glic (chwith): mae hyn yn cael effaith cwbwl wahanol ac yn achosi i raglen redeg ayb
Un-clic (dde): codi dewislen
Botwm neu rowliwr (canol): mae'r ddogfen sydd ar agor ar y sgrin yn symud i fyny neu i lawr
Llusgo (chwith) gan symud y llygoden: drag and drop; llusgo ffeil neu ffenest o gwmpas y sgrin.

Ceir llawer rhagor, yn ddibynnol ar y math o lygoden.

Calque golygu

Mae'r defnydd o'r gair "llygoden" am y teclyn yma yn enghraifft o calque, sef cyfieithiad llythrennol o un iaith i'r llall am wrthrych neu gysyniad.

Darllen pellach golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Bardini, Thierry (2000). Bootstrapping: Douglas Engelbart, Coevolution, and the Origins of Personal Computing. Stanford: Stanford University Press. t. 98. ISBN 978-0-80473871-2.
  2. English, William K.; Engelbart, Douglas C.; Huddart, Bonnie (July 1965). Computer-Aided Display Control (Final Report). Menlo Park: Stanford Research Institute. t. 6. Cyrchwyd 2017-01-03.