Llygredd a achosir drwy ryddhau nwyon, solidau mân, neu erosolau hylifol gwasgarog i'r atmosffer ar gyfradd sy'n mynd yn fwy na'r gallu naturiol i wasgaru, gwanhau neu amsugno'r sylweddau hynny yw llygredd aer.[1] Fel arfer cyfeiria "llygredd" at allyriannau gan ddyn (anthropogenig). O bryd i'w gilydd mae hefyd ffynonellau eraill o'r un sylweddau. Gall hyn creu dryswch wrth drafod cyfrifoldebau. Yn 2014 adroddodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) y bu llygredd awyr yn gyfrifol am tua 7 miliwn marwolaeth cyn ei amser yn 2012[2]. Yn ôl data Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd gan y BBC yn 2017[3] mae tua 2,000 yn marw (ryw 6% o'r cyfanswm) cyn ei hamser yng Nghymru pob blwyddyn o'i effaith; yn ail dim ond i ysmygu ac yn fwy o gonsýrn na gordewdra ac alcohol[3].

Llygredd aer
Mathllygredd amgylcheddol, llygredd, emission Edit this on Wikidata
AchosCar, echdoriad folcanig, tân gwyllt, llwch, carbon monocsid edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
 Rhybudd! Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon.
Beth am fynd ati i'w chywiro?

Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol.

Llygredd awyr uwchben Sanlitun, Beijing, Tsiena (2014)

Cyhoeddir ar-lein adroddiadau cyson (beunyddiol ?) a manwl o ryw 40 safle monitro[4] gan Ansawdd Aer (Awyr) Cymru. Ceir hefyd ar ei wefan adroddiadau seminarau a ffeithiau ar y pwnc[5].  (Sefydlwyd Fforwm Ansawdd Aer Cymru yn 1994 gan banel Swyddogion Uwch Iechyd yr Amgylchedd yng Nghymru - fel y'u gelwyd ar y pryd[6].)

Sylweddau sy'n llygru awyr golygu

  • Radicalau hirhoedlog. Er enghraifft nitrocsadau.
 
Cyfnewid nwyon yn yr alfeolws o fewn yr ysgyfaint.

Peiriannau diesel fel ffynonellau llygredd awyr golygu

 
Locomotif Diesel o Yaroslavl, Rwsia (2013) - gydag allyriant gronynnau mân du.

Mae sawl math o beiriant tanio mewnol. Dau fath, yn bennaf, a welir yn pweru cerbydau ffyrdd a rheilffyrdd y byd: y peiriant petrol a'r peiriant diesel. Mae'r ddau'n gyfrifol am allyriadau a all lygru'r awyr ac o'r herwydd, yn gynyddol yn destun cyfreithiau sy'n ymwneud a diogeli'r amgylchedd[17]. Oherwydd cymhareb cywasgedd uwch (a'r tymheredd llosgi gysylltiedig) mae'r peiriant diesel yn fwy effeithiol na'r peiriant petrol wrth ryddhau egni cemegol tanwydd hydrocarbon. O'r herwydd, mae iddo lai o droednod CO2, ac felly'n fanteisiol o safbwynt newid hinsawdd. Ond am sawl rheswm mae'n cynhyrchu mwy o allyriadau ocsidau nitrogen wrth i nitrogen yr awyr losgi gyda'r tanwydd yn y silindr. Hyn oherwydd y tymheredd uwch a'r ffaith fod fwy o ocsigen yn y silindr na sydd ei angen i lwyr losgi'r tanwydd[18]. Bu hyn yn destun scandal a ddaeth i'r wyneb yn 2015 wrth iddo ymddangos fod ambell gynhyrchwr ceir wedi twyllo profion annibynnol yn fwriadol[19]. Arweiniodd hyn i gryn drafodaeth o fewn ac o'r tu allan i'r diwydiant ceir[20].

Yn ogystal â'r cemegau anweddol, mae allyriad peiriant diesel hefyd yn cynnwys gronynnau soled microsgopig. Dosbarthir y rhain yn ôl eu maint a'u cynnwys. Y mathau mân a tra-mân sydd o bwys i iechyd gan eu bod yn cyrraedd cilfachau cila'r ysgyfaint. Gronynnau carbon ydynt yn bennaf, sydd yn cynnwys olion sylweddau organaidd, sylffad, nitrad, metalau ac elfennau hybrin eraill[13].

Yn sgil hyn oll aethpwyd ati i gynllunio, cynhyrchu a marchnata ceir nad ydynt yn defnyddio petrol na diesel; ceir trydan yn bennaf. Un cwmni a sefydlwyd yn unswydd i'r perwyl yw Tesla Inc[21], a ffurfiwyd yn 2003. Yn 2017 cyhoeddodd Volvo (y cwmni traddodiadol gyntaf i wneud hynny) y byddent yn cynnig motor drydan ar bob un o'i modelau o 2019 ymlaen[22]. Yng Ngorffennaf 2017 cyhoeddodd Llywodraeth Ffrainc ei bwriad i wahardd gwerthu ceir sy'n defnyddio petrol neu diesel erbyn 2040[23]. Ychydig wythnosau yn ddiweddarach cyhoeddodd Llywodraeth Gweledydd Prydain yr un bwriad ar gyfer ceir newydd[24].

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Air pollution. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Chwefror 2014.
  2. 7 million premature deaths annually linked to air pollution (WHO, 24/3/2014) [1]
  3. 3.0 3.1 Llygredd aer yn 'argyfwng' iechyd cyhoeddus yng Nghymru (BBC Cymru Fyw, 7/3/2017) [2]
  4. http://www.welshairquality.co.uk/current_levels.php?lg=&p=24
  5. Ansawdd Aer Cymru. (darllenwyd 07/07/2017)
  6. http://www.welshairquality.co.uk/business_plan.php
  7. Carbon monocsid (Ansawdd Aer Cymru) (darllenwyd 7/7/2017)
  8. Sylffwr deuocsid (Ansawdd Aer Cymru) (darllennwyd 7/7/2017)
  9. Ocsidau nitrogen (Ansawdd Aer Cymru) (darllenwyd 7/7/2017)
  10. Osôn a chyfansoddion organig anweddol (Ansawdd Aer Cymru) (darllenwyd 7/7/2017)[3]
  11. Bensen (sic) (Ansawdd Aer Cymru) (darllenwyd 7/7/2017)
  12. 1,3-Biwtadïen (Ansawdd Aer Cymru) (darllenwyd 7/7/2017)
  13. 13.0 13.1 "Diesel Particulate Matter (US-EPA) (dyddiwyd 10/4/2017)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-05-08. Cyrchwyd 2017-07-06.
  14. Micro-Lygryddion Organig Gwenwynig (TOMPS) (Ansawdd Aer Cymru) (darllenwyd 7/7/2017)[4]
  15. Plwm a Metelau Trwm (Ansawdd Aer Cymru) (darllenwyd 7/7/2017)
  16. Gronynnau Mân (Ansawdd Aer Cymru) (darllenwyd 7/7/2017)
  17. Exhaust Air Quality Pollutant Emissions Testing (Asiantaeth Ardystio Cerbydau'r DU, adalwyd 5/7/2017) [5][dolen marw]
  18. Why does diesel exhaust contain more nitrogen dioxide than other combustion engines? (Quora, 7/8/2014) [6]
  19. Revealed: nearly all new diesel cars exceed official pollution limits (Guardian, 23/4/2016) [7]
  20. Euro 6 emissions standards: what do they mean for you? (Auto Express, 13/11/2016) [8]
  21. "About Tesla". Tesla Inc. 2017. Cyrchwyd Gorffennaf 26 2017. Check date values in: |access-date= (help)
  22. "Volvo goes electric across the board". BBC News. 5 Gorffennaf 2017.
  23. "France set to ban sale of petrol and diesel vehicles by 2040". BBC News. 6 Gorffennaf 2017.
  24. "New diesel and petrol vehicles to be banned from 2040 in UK". BBC News. 26 Gorffennaf 2017.
Eginyn erthygl sydd uchod am yr amgylchedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato