Llyn Conwy yw tarddle Afon Conwy, yn sir Conwy, gogledd Cymru. Cyfeirnod AO: SH780462.

Llyn Conwy
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.999°N 3.819°W Edit this on Wikidata
Map

Mae'r llyn, sydd o siâp crwn anwastad, yn gorwedd tua 1,550' i fyny ar ymyl ogleddol y Migneint. Mae'n gorwedd mewn pant mawr agored. Mae'r tir o gwmpas yn fawnog a chreigiog gyda phlanhigion grug ac eithin yn dominyddu.

Rhed Afon Conwy ifanc allan o ben deheuol y llyn. Er ei fod yn llyn naturiol mae'n gronfa dŵr bellach. Mae'n boblogaidd gan bysgotwyr plu.

Y mynediad hawsaf iddo yw o lôn y B4407, sy'n rhedeg rhwng yr A5 ger Pentrefoelas a Ffestiniog, ger Blaenau Ffestiniog.

Hanes cysylltiedig a'r llyn golygu

  • Nythfa hir-hoedlog i wylanod penddu Larus ridibundus.
Llyn Konwy o leia dhwy vhildir o Gwmpas. Ymma y mae Ynys y Gwylanod penne dyon. [Llyn Conwy o leiaf ddwy filltir o’i gwmpas. Yma y mae Ynys y Gwylanod Pennau Duon][1]

Mae’r drefedigaeth hon yno o hyd a’r unig un yn sir Gaernarfon of any size[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Parochialia Edward Llwyd (copi: Archifdy Caernarfon
  2. J. Barnes, The Birds of Caernarfonshire (John Barnes, 1997)
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.