Llyn yn nhalaith Utah yn yr Unol Daleithiau yw Llyn Great Salt[1] (Saesneg: Great Salt Lake). Saif i'r gorllewin o Salt Lake City ar uchder o 1,280 medr uwch lefel y môr.

Llyn Great Salt
Mathhypersaline lake, llyn hallt Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirUtah Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Arwynebedd4,400 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,283 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.1667°N 112.5833°W Edit this on Wikidata
Dalgylch55,685 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd120 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae'r llyn tua 120 km o hyd a 48 km o led, gydag arwynebedd o tua 5,100 km2, er bod y mesuriadau hyn yn amrywio yn ôl lefel y dŵr. Ceir 27% o halen yn ei ddyfroedd, lefel uwch nag yn nŵr y môr. Y rheswm am hyn yw nad oes unrhyw afon yn llifo allan o'r llyn. Dim ond y Môr Marw sy'n fwy hallt.

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 64.