Llyn yng ngogledd-orllewin Rwsia yw Llyn Ilmen (Rwseg Озеро Ильмень / Ozero Ilmen). Fe'i lleolir yng ngorllewin Oblast Novgorod, 6 km i'r de o ddinas Novgorod. Ei hyd yw 40 km, a'i led ar ei uchaf yw 32 km. Mae ei arwynebedd yn amrywio o 733 i 2090 km2 yn ôl lefel y dŵr. Mae'n llyn bas: ei ddyfnder yn ei fan dyfnaf yw 10m. Mae ei lannau'n fflat, ac, yn y dde, yn gorsog. Mae Afon Volkhov yn llifo allan ohono i'r gogledd yn rhedeg tuag at Lyn Ladoga, sy'n arwain yn y pendraw at Gwlff y Ffindir dros Afon Neva a St Petersburg.

Llyn Ilmen
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOblast Novgorod Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd982 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr18 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau58.27°N 31.28°E Edit this on Wikidata
Dalgylch67,200 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd45 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.