Cronfa ddŵr enfawr yn ne yr Aifft a gogledd Swdan yw Llyn Nasser (Arabeg: بحيرة ناصر; Buhayrat Nasir). Gelwir y rhan gymharol fechan sydd yn y Swdan yn Llyn Nubia (Arabeg: بحيرة نوبية; Buhayrat Nubiya). Mae Llyn Nasser yn 550 km o hyd a 35 km o led yn y man lletaf, gydag arwynebedd o 5,250 km².

Llyn Nasser o Abu Simbel

Dechreuodd y llyn ffurfio yn 1964 wedi adeiladu Argae Aswan ar draws Afon Nîl. Bu cydweithrediad rhwng nifer o wledydd wedi ei drefnu gan UNESCO i symud nifer o demlau a henebion eraill rhag iddynt gael eu boddi. Teml Abu Simbel yw'r enwocaf o'r rhain. Enwyd y llyn ar ôl Gamal Abdel Nasser, Arlywydd yr Aifft ar y pryd.

Argae Uchel Aswan