Llyn Peris

llyn, Gwynedd, Cymru

Llyn yn Eryri yw Llyn Peris, i'r de o Llanberis ac i'r gogledd o Nant Peris. Cafodd ei enw oddi wrth sant Peris. Mae arwynebedd y llyn yn 95 acer.

Llyn Peris
Mathcronfa ddŵr, moraine-dammed lake Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1128°N 4.105°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganFirst Hydro Company Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Saif Llyn Padarn ychydig i'r gogledd-orllewin, a chredir fod y ddau wedi bod yn un llyn mawr ar un adeg. Saif Castell Dolbadarn ar fryn rhwng y ddau lyn. Ar lan ddwyreiniol y llyn mae Chwarel Dinorwig ar hyd llethrau Elidir Fawr. Wedi i'r chwarel gau adeiladwyd Gorsaf Bŵer Dinorwig, gorsaf bŵer drydan ddwr, dan yr hen weithfeydd. Mae'r orsaf bwer yma yn defnyddio trydan ar adegau pan nad oes cymaint o alw amdano i bwmpio dŵr o Lyn Peris i'r Marchlyn Mawr uwchben. Pan fo mwy o alw am drydan, mae'r dwr yn cael ei ollwng yn ôl i lawr i gynhyrchu trydan.

Oherwydd hyn mae lefel y llyn yn amrywio yn fawr. Roedd Llyn Peris yn un o'r ychydig lynnoedd yn Eryri lle ceir y Torgoch, a chyn dechrau ar y gwaith yma, fe ddaliwyd y pysgod a'u trosglwyddo i lynnoedd eraill, Ffynnon Llugwy, Llyn Cowlyd, Llyn Melynllyn a Llyn Dulyn. Fodd bynnag, mae'r Torgoch wedi dychwelyd i Lyn Peris, er nad oes cofnod iddynt gael eu dychwelyd yno'n fwriadol.

Llyn Peris

Llyfryddiaeth golygu

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)