Llyn St. Clair (Gogledd America)

Mae Llyn St. Clair (Ffrangeg: Lac Sainte-Claire) yn llyn rhwng Ontario, Canada a Michigan, UDA, sydd wedi'i leoli tua 6 milltir (9.7 km) i'r gogledd-ddwyrain o Detroit a Windsor, Ontario. Gydag arwynebedd o tua 430 milltir sgwâr (1,100 km2), mae'r llyn yn rhan o system Y Llynnoedd Mawr; fodd bynnag, yn sgil ei faint cymharol fychan, anaml y caiff ei gynnwys fel un o'r Llynnoedd Mawr. Ar hyn o bryd, mae cynigion i'r llyn gael ei ystyried fel un o'r Llynnoedd Mawr ar y gweill, a fyddai'n ei gynnwys mewn gwaith ymchwil a phrosiectau eraill sy'n gysylltiedig â'r "Llynnoedd Mawr". Yn lleol, cyfeirir at Lyn St. Clair fel "y Chweched Llyn Mawr". Ynghyd ag Afon St. Clair ac Afon Detroit, cysyllta Llyn St. Clair Llyn Huron (i'r gogledd) gyda Llyn Erie (i'r de).

Llyn St. Clair
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirChatham-Kent, Wayne County, Lakeshore, Tecumseh, Windsor, Macomb County, St. Clair County, Lambton County Edit this on Wikidata
GwladCanada, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Arwynebedd1,114 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr175 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.450265°N 82.67572°W Edit this on Wikidata
Hyd42 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae'r llyn yn 26 milltir (42 km) o'r gogledd i'r de ac yn 245 milltir (39 km) o'r dwyrain i'r gorllewin. Llyn bâs iawn ydyw, gyda dyfnder cyfartalog o tua 11 troedfedd (3.4m), gyda'r dyfnder naturiol mwyaf yn 21.3 troedfedd (6.5m). Serch hynny, mae'r llyn yn 27 troedfedd (8.2m) yn y sianel morlywio a grëwyd ar gyfer llongau cludo.

Llun lloeren sy'n dangos Llyn St. Clair yn y canol, yn ogystal ag Afon St Clair sy'n ei gysylltu â Llyn Huron (i'r Gogledd) ac Afon Detroit yn ei gysylltu â Llyn Erie (yn y De).

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am lyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.