Mae Llyn Tiwnis (Arabeg البحيرة El Bahira, Ffrangeg 'Lac de Tunis') yn lagŵn naturiol a leolir rhwng Tiwnis, prifddinas Tiwnisia, a Gwlff Tiwnis (Môr Canoldir). Mae ganddo arwynebedd o 37 km² (14 milltir sgwar) ac mewn cymhariaeth â'i faint mae'n fas iawn. Ar un adeg dyma oedd harbwr naturiol dinas Tiwnis.

Llyn Tunis
Mathllyn, Lagŵn, ardal gadwriaethol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTiwnis Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Arwynebedd37 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.82°N 10.25°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethsafle Ramsar Edit this on Wikidata
Manylion
Llun lloeren o Lyn Tiwnis

Hanes golygu

Rhedai ffordd hynafol o Carthago i Diwnis ar hyd glannau'r llyn. Oherwydd lleoliad Llyn Tiwnis yn rheoli mynediad y Carthaginiaid i'r meysydd ffrwythlon ar y gwastatiroedd tu allan i'w dinas, codwyd argae gan y Rhufeiniaid dros y llyn, gan ei rannu'n ddau. Heddiw mae sylfaen yr argae honno yn cario traffordd a thrac rheilffordd y TGM sy'n cysylltu Tiwnis a La Goulette a threfi arfordirol Carthago, Sidi Bou Saïd, a La Marsa.

Yn y gorffennol roedd Llyn Tiwnis yn enwog am ei heidiau o fflamingos. Roedd hefyd yn gallu creu problemau iechyd yn yr haf am fod ei glannau'n dir bridio mosgitos. Mae rhan ogleddol y llyn yn cynnwys ynys Chikly, oedd yn gadarnle i'r Sbaenwyr yn y 16g ond sydd rwan yn warchodfa natur (ers 1993).

Gan fod y llyn yn llenwi â thywod ar ddiwedd y 19g cloddiodd y Ffrancod gamlas trwyddi, 6 milltir o hyd, 150 troedfedd o led, ac 20 troedfedd o ddyfnder. Roedd hyn yn cysylltu hen borthladd Tiwnis â La Goulette. Nid yw'n addas i longau mawr heddiw.

Darllen pellach golygu

  • Tunis: la ville et les monuments (Guides Cérès, Tiwnis, 1980)