Llyn yn nwyrain Sikkim, India, yw Llyn Tsomgo (enwau amgen: Llyn Tsongmo, Llyn Changu). Mae'r enw Tibeteg (tafodiaith leol - Bhutia - Sikkim) yn golygu "Pen Llyn" neu "Llyn y tarddle" (tso "llyn" + mgo "pen"). Gorwedd y llyn tua 3,780 medr (12,400 troedfedd) i fyny ger y ffin â Tibet, tua 40 km i'r gogledd-orllewin o ddinas Gangtok, prifddinas Sikkim. Mae ffordd droellog yn dringo o Gangtok i'r llyn sy'n dringo wedyn i fwlch y Nathu La.

Llyn Tsomgo
Mathglacial lake Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirEast Sikkim district Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd0.236 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr3,780 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau27.3753°N 88.7639°E Edit this on Wikidata
Map

Mae Tsomgo yn llyn sanctaidd i Bwdhyddion a Hindwaid Sikkim a'r cylch. Yn y gaeaf mae'n rhewi drostodd ond mae'r dŵr yn toddi yn y gwanwyn pan geiff ei fwydo gan eira tawdd o'r mynyddoedd uchel o'i gwmpas. Mae'n adnabyddus am y rhododendrons sy'n tyfu yno acheir hwyaid Brahminy ac adar eraill yno, ynghyd â phandas coch ar y lethrau.

Tsomgo yn y gaeaf

Gweler hefyd golygu