Llyn yng ngorllewin Iran yw Llyn Zarivar neu Zrewar (Cwrdeg: Zrêwar neu Zrêbar, Perseg: زریوار Zarivar).

Llyn Zarivar
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Marivan Edit this on Wikidata
GwladBaner Iran Iran
Cyfesurynnau35.53°N 46.13°E Edit this on Wikidata
Hyd5 cilometr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddZagros Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethsafle Ramsar Edit this on Wikidata
Manylion

Lleolir y llyn yn nhalaith Cyrdistan yng ngorllewin Iran, ger y ffin â Twrci. Ei hyd yw 5 km a'i led mwyaf yw 1.6 km. Mae'n gorwedd i'r gorllewin o dref Marivan. Mae'r dŵr yn groyw am fod y llyn yn gorwedd 1,285 medr i fyny yn y mynyddoedd. Mae Afon Zrêbar yn llifo o'r llyn.

Mae Llyn Zarivar yn boblogaidd gan dwristiaid yn Iran a cheir sawl chwedl werin Cyrdaidd amdani. Cyrdiaid ethnig yw'r mwyafrif o'r bobl sy'n byw o gwmpas y llyn, sy'n gorwedd yn nhiriogaeth hanesyddol Cyrdistan.