Llyn dŵr croyw, tua 1,810 km² (700 milltir²), yn nwyrain Casachstan yw Llyn Zaysan (Casacheg: Зайсан көлі; Rwseg: озеро Зайсан). Mae'n gorwedd mewn pant rhwng Mynyddoedd Altai a Tarbagatai.

Llyn Zaysan
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArdal Dwyrain Kazakhstan Edit this on Wikidata
GwladCasachstan Edit this on Wikidata
Arwynebedd1,860 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr420 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48°N 84°E Edit this on Wikidata
Hyd100 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Machlud dros Lyn Zaysan

Yn gorwedd ar uchder o 420 m, mae gan y llyn hyd o 105 km a lled o 22–48 km, a dyfnder o ddim mwy na 15 m. Y prif afonydd i lifo iddo yw afonydd Kara-Irtysh (Irtysh Ddu) a Kendyrlyk, ac mae Afon Irtysh (neu Afon Irtysh Wen), un o afonydd mwyaf Siberia, yn llifo allan ohono. Ceir llawer o bysgod ynddo.