Llys Troseddau Rhyngwladol

Llys Troseddol Rhyngwladol Cyson

Mudiad rhyng-lywodraethol a thribiwnlys ar gyfer y byd cyfan yw Llys Troseddau Rhyngwladol (Ffrangeg: Cour pénale internationale; Saesneg: International Criminal Court) (a adnabyddir hefyd gan y talfyriadau: ICC ac ICCt) ac sydd wedi'u sefydlu yn yr Hâg yn yr Iseldiroedd. Caiff y Ffrangeg a'r Saesneg eu siarad yn gyfochrog ym mhob rhan o waith y mudiad.

Llys Troseddau Rhyngwladol
Enghraifft o'r canlynolllys rhyngwladol, sefydliad rhynglywodraethol Edit this on Wikidata
Label brodorolInternational Criminal Court Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Gorffennaf 2002 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysProsecutor of the International Criminal Court, barnwr o'r Llys Troseddol Ryngwladol, President of the International Criminal Court Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadPresident of the International Criminal Court Edit this on Wikidata
Map
Aelod o'r  canlynolInternational Federation of Library Associations and Institutions Edit this on Wikidata
PencadlysDen Haag Edit this on Wikidata
Enw brodorolInternational Criminal Court Edit this on Wikidata
GwladwriaethYr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
RhanbarthDen Haag Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://icc-cpi.int, https://www.icc-cpi.int/fr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gofal: ceir erthygl arall o'r enw Llys Barn Rhyngwladol; ceir hefyd sawl mudiad gyda'r talfyriad 'ICC'.

Defnyddir y talfyriad ICCt yn aml er mwyn gwahaniaethu rhwng y Llys Troseddau Rhyngwladol a nifer o gyrff gyda'r un talfyriad e.e. International Cricket Council neu'r International Control Commission.

Mae gan yr ICCt yr awdurdod i erlyn unigolion am droseddau:

Ni fwriedir i'r ICCt fod yn ychwanegiad i'r system gyfreithiol ryngwladol, bresennol, ac felly dim ond ar rai adegau arbennig mae'n gweithredu; yr adegau hynny yw: pan fo llysoedd gwledydd y byd yn methu erlyn, neu ddim yn fodlon erlyn troseddwyr neu pan fo'r Cenhedloedd Unedig neu wladwriaethau unigol yn gofyn iddyn nhw erlyn.

Cychwynnodd y Llys Troseddau Rhyngwladol ar ei waith ar 1 Gorffennaf 2002, yr un adeg ag y daeth 'Ystatud Rhufain i rym. Mae Ystatud Rhufain yn gytundeb amlochrog sy'n gynsail i waith yr ICCt. Pan fo gwladwriaeth yn arwyddo Ystatud Rhufain, yna dônt yn aelodau o'r ICCt yn otomatig. Yn 2015 roedd 123 gwladwriaeth wedi arwyddo Ystatud Rhufain, ac felly'n aelodau o'r Llys Troseddau Rhyngwladol.[1]

Mae gan y Llys Troseddau Rhyngwladol bedair adran: y Llywyddiaeth, Adran Farnwrol, Adran Erlyniaeth a'r Cofrestrydd. Y Llywydd yw'r Prif Farnwr ac mae wedi'i ethol gan ei gydweithwyr yn yr Adran Farnwrol sef yr adran sy'n eistedd (neu'n cymryd y gwrandawiad) yn y Llys. Ymchwilio i'r troseddau mae Adran yr Erlynydd a hi hefyd sy'n agor yr achos. Gwaith Adran y Cofrestrydd yw gweinyddu gwaith y mudiad.

Gwladwriaethau sy'n Aelodau o'r Llys
     Gweithredwyd dros yr Aelod hwn      Ni weithredwyd dros yr Aelod hwn      Gwnaed cais i ymuno      Gwladwriaeth nad yw wedi ymuno

Hanes golygu

Ar 17 Gorffennaf 1998 derbyniwyd Ystatud Rhufain gan 120 o wledydd, gyda saith yn erbyn a 21 yn ymatal. Y 7 gwlad a oedd yn erbyn ei ffurfio oedd: Unol Daleithiau America, Israel, Tsieina, Irac, Libia, Qatar ac Iemen.[2] Yn dilyn hyn, daeth y cytundeb yn weithredol ar 1 Gorffennol 2002.[3] Penodwyd 18 o farnwyr gan Gynulliad y Gwladwriaethau (the Assembly of States Parties) yn Chwefror 2003. Tyngodd y deunaw barnwr lw o ffyddlondeb i'r Llys ar 11 Mawrth 2003.[4]

Achosion golygu

Hyd at Ionawr 2015 roedd y sefyllfa fel a ganlyn: roedd y Llys, ers ei sefydlu, wedi derbyn nifer o gwynion am droseddau honedig gan o leiaf 139 gwlad ac roedd yr Erlynydd wedi agor ymchwiliadau i naw sefyllfa: Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Wganda, Gweriniaeth Canolbarth Affrica (achos I a II), Darffwr, Swdan, Cenia, Libia, yr Arfordir Ifori a Mali.[5] Yn ogystal â hyn roedd Adran (neu 'Swyddfa'r') Erlynydd wedi agor 9 achos cychwynnol arall: Palisteina ac Israel, Affganistan, Colombia, Georgia, Gini, Hondwras, Irac, Nigeria a'r Wcrain.

 
Ymchwiliadau gan y Llys Troseddau Rhyngwladol
Gwyrdd: Ymchwiliadau swyddogol
Coch golau: Ymchwiliadau cychwynnol cyfoes
Coch tywyll: Ymchwiliadau cychwynnol wedi'u gorffen

Aelodau newydd golygu

Ar y cyntaf o Ebrill, 2015 derbyniwyd Gwladwriaeth Palesteina yn 123ydd gwladwriaeth i dderbyn Ystatud Rhufain ac felly'n Aelod-Wladwriaeth (neu State Party) o'r ICC.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Llys Troseddau Rhyngwladol; Archifwyd 2015-01-14 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 17 Ionawr 2015
  2. Scharf, Michael P. (Awst 1998). "Results of the Rome Conference for an International Criminal Court". American Society of International Law. Adalwyd 4 Rhagfyr 2006.
  3. Amnesty International (11 Ebrill 2002). "The International Criminal Court – A Historic Development in the Fight for Justice" Archifwyd 2009-03-07 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd Mawrth 2008.
  4. Coalition for the International Criminal Court. "Judges and the Presidency". 9 Rhagfyr 2012. Adalwyd 9 Rhagfyr 2012.
  5. Achosion; gwefan Llys Troseddau Rhyngwladol; Archifwyd 2013-04-15 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 17 Ionawr 2015
  6. Gwefan yr ICC; Archifwyd 2015-04-01 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 05 Ebrill 2015.