Llys yr Esgob, Llandaf

adfeilion yn Llandaf, Caerdydd

Plasdy neu gastell canoloesol yw Llys yr Esgob yn Llandaf, sydd yn awr yn faesdref o Gaerdydd. Fe'i leolir ar ddiwedd y Stryd Fawr, nid ymhell o Eglwys Gadeiriol Llandaf. Fe'i adeiladwyd yn ôl pob tebyg gan William de Braose, esgob Llandaf o 1267 i 1287 ac aelod o'r teulu Normannaidd a fu'n arglwyddi ar Ŵyr. Er mai adfail yw'r castell bellach mae'r porthdy a'r muriau allanol yn weddol gyflawn. Mae'r porthdy yn debyg iawn i borth ddwyreiniol allanol Castell Caerffili, sy'n dyddio'n ôl i'r un cyfnod.[1] Ar ôl gwrthryfel Owain Glyn Dŵr ni ddychwelodd esgobion Llandaf i'r adeilad hwn am iddynt adeiladu plasdy newydd ym Matharn, Sir Fynwy.[2]

Llys yr Esgob
Mathllys esgob, castell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlandaf Edit this on Wikidata
SirCaerdydd
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr29 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.494614°N 3.217581°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganWilliam de Braose Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwGM073 Edit this on Wikidata

Mae'r castell i'w weld yn gyflawn ar fap o 1610 gan John Speed, felly mae'n debyg iddo gael ei ddatgaeru yn ystod y Rhyfel Cartref. Erbyn canol y 19g roedd esgobion Llandaf yn preswylio mewn tŷ crand lle mae ysgol breifat y Gadeirlan yn awr; roedd adfeilion y llys canoloesol yn rhan o'r ardd. Rhoddwyd Llys yr Esgob i gyngor Caerdydd ym 1971 ac fe agorodd i'r cyhoedd fel parc, ar ôl gwaith cadwraeth ar yr adeilad, ym 1972.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin. t. 256.CS1 maint: ref=harv (link)
  2. Emery, Anthony (2000). Greater Medieval Houses of England and Wales, 1300–1500: Volume 2, East Anglia, Central England and Wales. Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt. t. 647.
  3. (Saesneg) Bishop's Castle. Coflein. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Adalwyd ar 13 Mawrth 2014.