Casgliad o blanhigion sych, wedi eu mowntio ar ddalennau o bapur gyda gwybodaeth dacsonomig, neu fan lle cedwir y fath gasgliad mewn trefn, yw llysieufa[1][2] neu herbariwm.[2]

Esiamplau o blanhigion cigysol y genws Nepenthes o lysieufa'r Amgueddfa Fyd Natur Genedlaethol ym Mharis, Ffrainc.
Merch yn paratoi sbesimen er mwyn ei fowntio.

Cesglir esiamplau o blanhigion yn y gwyllt, a chaent eu harchwilio a'u henwi gan arbenigwyr botanegol cyn eu gwasgu, eu sychu, ac yna'u mowntio'n ofalus ar bapur archifol er mwyn arddangos yr holl brif nodweddion morffolegol, er enghraifft gan sicrhau bod naill ochr y dail a'r petalau yn weladwy. Ysgrifennir label gydag enwau deuenwol gwyddonol y planhigyn, enw'r casglwr, ac yn aml manylion cyffredinol gan gynnwys man casglu a dyddiad. Trefnir y papurau mewn system ffeilio, yn ôl dosbarthiad biolegol teyrnas y planhigion, fel bod modd eu canfod a'u hastudio.[3]

Cedwir llysieufeydd yn aml mewn gerddi botanegol, gerddi coed (arboreta), amgueddfeydd byd natur, a phrifysgolion. Maent yn gronfeydd pwysig o wybodaeth ym meysydd ecoleg, anatomeg a morffoleg planhigion, bioleg cadwraeth, bioddaearyddiaeth, paleobotaneg, ac ethnobotaneg. Ers yr 20g, mae'n bosib i ddadansoddi DNA o lysieufeydd sydd wedi eu cadw ers canrifoedd.

Cyfeiriadau golygu

  1.  llysieufa. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 23 Tachwedd 2021.
  2. 2.0 2.1 Geiriadur yr Academi, "herbarium".
  3. (Saesneg) Herbarium. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Tachwedd 2021.