Llywodraethiant data

Un o gysyniad rheoli data yw llywodraethiant data sy'n sicrhau fod ansawdd y data yn dda drwy gydol cylch bywyd y data. Oddi fewn y pwnc ceir is-adrannau megis argaeledd y data, defnyddioldeb, cysondeb, cywirdeb a diogelwch y data ac mae hefyd yn cynnwys sefydlu prosesau i sicrhau rheolaeth data effeithiol e.e. fel atebolrwydd os yw ansawdd y data yn wael, a sicrhau y gellir defnyddio'r data drwy'r cwmni neu'r sefydliad cyfan.[1]

Gwaith stiward y data yw sicrhau fod prosesau llywodraethiant Data yn cael eu dilyn, argymhellion yn cael eu dilyn ac awgrymu gwelliannau i'r prosesau hyn.

Trosolwg golygu

Yn grynno: mae llywodraethiant data yn cynnwys y bobl sydd ynghlwm wrth y gwaith, y prosesau a'r technoleg gwybodaeth sydd eu hangen i greu a thrin y data mewn modd cyson a chywir ar draws y fenter. Mae'n gosod sylfaen gadarn ac yn darparu ymarfer da, y strategaeth a'r strwythur angenrheidiol sydd eu hangen i sicrhau bod data'n cael ei reoli fel ased a'i drawsnewid yn wybodaeth ystyrlon.[2] Gellir diffinio nodau ar bob lefel o'r fenter fel bod y prosesau hyn yn cael eu defnyddio. Ymhlith y nodau pwysicaf mae:[3]

  • Gwella cysondeb wrth wneud penderfyniadau
  • Gostwng y posibilrwydd o ddirwyon rheolaethol
  • Gwella diogelwch y data
  • Gwella'r incwm a gynhyrchir a'r incwm potensial
  • Dynodi atebolrwydd am ansawdd y wybodaeth
  • Galluogi gwell cynllunio gan y staff sy'n goruchwylio'r gwaith
  • Lleihau, neu ddileu'r angen i ail-wneud rhai prosesau heb fod eu hangen
  • Gwella effeithiolrwydd y staff
  • Gwella prosesau perfformiad
  • Cydnabod y camau da sy'n cael eu creu.

Gwireddir y nodau hyn trwy weithredu rhaglenni (neu fentrau) llywodraethu data, gan ddefnyddio technegau Rheoli Newid.

Pan fydd cwmnïau'n dymuno neu'n cael eu gorfodi i reoli data, yna maent yn grymuso eu staff, yn sefydlu prosesau ac yn cael cymorth gan dechnoleg i wneud hyn.[4]

Mae llywodraethiant data, felly, yn fath o reoli ansawdd er mwyn asesu, rheoli, defnyddio, gwella, monitro, cadw ac amddiffyn gwybodaeth oddi fewn i gwmni neu sefydliad. Mae'n creu model sy'n nodi pwy gaiff wneud beth: pa staff sy'n cymryd y camau angenrheidiol, pa ran o'r data a ddefnyddir, dan ba amgylchiadau a pha ddulliau a ddefnyddir.[5]

Enghreifftiau golygu

Llywodraethiant data agored:

Eraill:

  • DAMA International
  • Data Governance Professionals Organization (DGPO)
  • The Data Governance Society
  • The Data Governance Council
  • Enterprise Data Management Council (EDM Council)
  • IQ International—the International Association for Information and Data Quality
  • The Compliance Governance and Oversight Council

Cyfeiriadau golygu

  1. data governance (DG) Cyhoeddwyd gan TechTarget
  2. [http: //www.lightsondata.com/ what-is-data-governance / "Beth yw Llywodraethu Data? - LightsOnData"] Check |url= value (help). LightsOnData (yn Saesneg). 2018-01-29. Unknown parameter |mynediad-date= ignored (help)
  3. Gianni, D., (2015, Jan). Data Policy Definition and Verification for System of Systems Governance, in Modeling and Simulation Support for System of Systems Engineering [1]
  4. Sarsfield, Steve (2009). "The Data Governance Imperative", IT Governance.
  5. "The DGI Data Governance Framework" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-10-25. Cyrchwyd 2019-02-10.