Llywydd Senedd Cymru

Llywydd Senedd Cymru neu y Llywydd (Saesneg: Presiding Officer) yw'r aelod a etholir gan Aelodau eraill yn Senedd Cymru i gadeirio eu sesiynau llawn (plenari), i gadw drefn yn y siambr, ac i amddiffyn hawliau'r Aelodau. Er bod gan y swydd deitl Saesneg hefyd (Presiding Officer), defnyddir yr enw Llywydd ar lawr y Cynulliad yn y ddwy iaith.

Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Yn ogystal mae'n arwain y corff yn y Senedd a adweinir fel Comisiwn Senedd Cymru ac felly'n gweithredu fel cynrychiolydd i'r sefydliad ar achlysuron swyddogol. Etholir un Dirprwy Lywydd i'w gynorthwyo. Lleolir swyddfa'r Llywydd yn Nhŷ Hywel ar Fae Caerdydd.

Y Llywydd cyntaf oedd Dafydd Elis-Thomas (a apwyntiwyd am y tro cyntaf yn 1999, ac eto am yr ail a'r trydydd dro yn 2003 a 2007), a fe'i ddilynwyd gan Rosemary Butler (a apwyntiwyd yn 2011) ac Elin Jones (a apwyntiwyd yn 2016).[1][2]

Dyletswyddau'r Llywydd golygu

 
Elin Jones,
(Plaid Cymru), Llywydd y Senedd

Prif swyddogaeth y Llywydd yw cadeirio sesiynau llawn y Senedd, cadw trefn ac amddiffyn hawliau Aelodau. Mae'n gyfrifol am sicrhau fod busnes yn cael ei drafod ar sail cydraddoldeb ac yn ddiduedd.

Mae'r Llywydd yn gyfrifol hefyd am Orchmynion Sefydlog a'u dadansoddiad. Gweithreda hefyd fel Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad, gyda dyletswydd arbennig i hyrwyddo gweithredu democrataidd, arweinyddiaeth, datblygu grymusterau deddfwriaethol y Cynulliad at y dyfodol, a chysylltiadau allanol y corff.

Mae'n gyfrifol yn wleidyddol, gyda'r Is Lywydd, am bob agwedd ar y Gorchmynion Sefydlog sy'n berthnasol i Swyddfa'r Llywydd.

Mae'r Llywydd yn cadeirio cyfarfodydd Panel Cadeiryddion y Pwyllgorau Dethol, lle mae trefniadau pwyllgor a materion sy'n effeithio ar fusnes pwyllgor yn cael eu trafod. Yn ogystal i hyn oll, mae'r Llywydd yn gweithredu fel llysgenad Senedd Cymru, yn mynychu cynadleddau llywyddion ac achlysuron eraill er mwyn hyrwyddo'r Senedd a chodi ei broffeil.

Y Llywydd golygu

Rhestr o ddeiliaid y swydd golygu

Enw Llun Dechrau yn y swydd Gorffen yn y swydd Plaid wleidyddol Nodiadau
Yr Arglwydd Elis-Thomas CC AC   12 Mai, 1999 11 Mai, 2011 Plaid Cymru Apwyntiwyd yn 1999, apwyntiwyd eto yn 2003 a 2007.
Rosemary Butler AC   11 Mai 2011 6 Ebrill 2016 Llafur
Elin Jones AS   11 Mai 2016 Plaid Cymru

Dirprwy Lywydd golygu

Rhestr o ddeiliaid y swydd golygu

Enw Llun Dechrau yn y swydd Gorffen yn y swydd Plaid wleidyddol Nodiadau
Jane Davidson AC   12 Mai 1999 17 Hydref 2000 Llafur Cynulliad cyntaf. Ymddiswyddodd pan ddaeth yn Weinidog o'r Llywodraeth.
John Marek AC   Hydref 2000 Mai 2003 Llafur Cynulliad cyntaf
7 Mai 2003 Mai 2007 Forward Wales Ail Gynulliad
Rosemary Butler AC   9 Mai 2007 11 Mai 2011 Llafur Trydydd Cynulliad
David Melding AC   11 Mai 2011 5 Ebrill 2016 Ceidwadwyr Pedwerydd Cynulliad
Ann Jones AS   11 Mai 2016 29 Ebrill 2021 Llafur Pumed Cynulliad
David Rees AS   12 Mai 2021 Llafur Chweched Senedd

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu