Llyn yn Ucheldiroedd yr Alban yw Loch Maree. Fe'i lleolir yn Ross a Cromarty yn yr Ucheldiroedd Gogledd-orllewinol. Gyda hyd o 20 km a lled o hyd at 4 km, Loch Maree yw'r llyn dŵr croyw pedwerydd fwyaf yn yr Alban o ran ei faint. Ei arwynebedd yw 28.6 km² (11 milltir sgwar).

Loch Maree
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWester Ross Edit this on Wikidata
SirCyngor yr Ucheldir Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd28.6 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57.6897°N 5.4575°W Edit this on Wikidata
Dalgylch440.11 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd20 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae ganddo bump ynys goediog fawr a thros 25 o rai llai. Ar Ynys Maree ceir adfeilion capel, y credir iddo fod yn gell feudwy o'r 7g a sefydlwyd gan Sant Maol Rubha. Mae'r ynys honno'n cynnwys coedwigoedd derw a chelyn hynafol; enghreifftiau prin a gwerthfawr o goedwigoedd cynhenid yr Ucheldiroedd. Fel yn achos Loch Ness, mae gan Loch Maree ei anghenfil ei hun a elwir yn muc-sheilch. Mae'r loch yn lle da i ddal brithyllod.