Y Lok Sabha yw'r siambr is yn Senedd India, sy'n cyfateb yn fras yn ei swyddogaeth i Dŷ'r Cyffredin yn San Steffan. Ystyr ei enw yw "Tŷ'r Werin".

Mae mwyafrif o 552 aelod (heblaw'r Llefarydd) yn eistedd yn y Lok Sabha. Cynhelir etholiad iddi bob pum mlynedd. Fel y siambr uwch, y Rajya Sabha, mae'n cwrdd yn Delhi Newydd. Etholwyd y 14eg Lok Sabha ym Mai 2004.

Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.