Mathemategydd, cyfrifiadurwr, a pheirianydd trydanol Aserbaijanaidd-Iranaidd oedd Lotfi Aliasker Zadeh (AZ:Lütfəli Rəhim oğlu Ələsgərzadə; 4 Chwefror 19216 Medi 2017). Roedd yn athro emeritws cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley o 1991 hyd ei farwolaeth. Ei gyfraniadau pwysicaf yw rhesymeg niwlog a mathemateg niwlog.[1]

Lotfi A. Zadeh
Ganwyd4 Chwefror 1921 Edit this on Wikidata
Novkhany, Baku Edit this on Wikidata
Bu farw6 Medi 2017 Edit this on Wikidata
Berkeley, Califfornia Edit this on Wikidata
Man preswylUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAserbaijan, Unol Daleithiau America, Iran Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Sefydliad Technoleg Massachusetts
  • Ysgol Peirianneg a Gwyddoniaeth Gymhwysol Sefydliad Fu
  • Prifysgol Tehran
  • Prifysgol Columbia Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • John R. Ragazzini Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd, peiriannydd, athro cadeiriol, gwyddonydd cyfrifiadurol, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amfuzzy set Edit this on Wikidata
PlantNorm Zada Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, IEEE James H. Mulligan, Jr. Education Medal, Medal Benjamin Franklin, Medal Anrhydedd IEEE, ACM - AAAI Allen Newell Award, Eringen Medal, Medal IEEE Richard W. Hamming, Richard E. Bellman Control Heritage Award, Dostlug Order, Nizami Ganjavi Gold Medal, Gwobr Sefydliad 'Frontiers of Knowledge' BBVA, honorary doctorate of the University of Oviedo, ACM Fellow, Cymrodor IEEE, honorary doctorate of the University of Granada, Rufus Oldenburger Medal, AAAI Fellow, Kampé de Fériet Award Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Baku yng Ngweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Aserbaijan, yr Undeb Sofietaidd, i fam Iddewig o Rwsia a thad Aserbaijanaidd o dras Dyrcaidd. Symudodd ei deulu i Tehran pan oedd Lotfi yn 10 oed, a chafodd ei addysg gan genhadon Presbyteraidd y Coleg Americanaidd.[2] Astudiodd beirianneg drydanol ym Mhrifysgol Tehran, ac enillodd ei radd ym 1942. Aeth ati i ennill gradd meistr o Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) ym 1946, a doethuriaeth o Brifysgol Columbia ym 1949. Gweithiodd yn isddarlithydd ym Mhrifysgol Columbia o 1950 i 1957, ac athro o 1957 i 1959, yn yr adran beirianneg drydanol.

Ymunodd â'r adran beirianneg drydanol ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley ym 1959 a fe fu yn gadeirydd yr adran honno o 1963 i 1968. Dan ei arweiniad, daeth cyfrifiadureg yn rhan bwysig o faes yr adran, a bu pwyslais ar fathemateg. Canolbwyntiodd ei waith cynnar ar ddadansoddiad systemau, dadansoddiad penderfyniadau, a systemau gwybodaeth. Ym 1965 fe gyhoeddodd ei erthygl gyntaf ar setiau niwlog. Wrth i'w syniadau ddatblygu, sbardunodd chwyldro ym maes seiberneteg a chafodd ddylanwad ar amryw o bynciau gan gynnwys roboteg, uwchgyfrifiaduron, gwneuthuro lloerennau, gwybyddiaeth ac astudiaeth delweddau, ac ymchwil i wrthrychau hedegog anhysbys.

Ymchwiliodd Zadeh hefyd i ddeallusrwydd artiffisial, semanteg, damcaniaeth gyfrifiadol ar ganfyddiad, hidlo optimaidd, systemau dynamig, a rhifau-Z. Yn ystod ei yrfa, fe dderbynodd nifer fawr o anrhydeddau a gwobrau academaidd ac roedd yn aelod o fwrdd golygyddol sawl cyfnodolyn. Cyhoeddodd mwy na 200 o erthyglau, a rhagor ar y cyd ag ysgolheigion eraill. Bu farw yn Berkeley yn 96 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) E. Trillas, "Lotfi A. Zadeh: On the man and his work", Scientia Iranica Cyfrol 18, Rhifyn 3 (Mehefin 2011), tt. 574–579 doi:10.1016/j.scient.2011.05.001.
  2. (Saesneg) Siobhan Roberts, "Remembering Lotfi Zadeh, the Inventor of Fuzzy Logic", The New Yorker (19 Medi 2017). Adalwyd ar 19 Mawrth 2018.