Louis yr Almaenwr

Roedd Louis yr Almaenwr (80628 Medi 876) yn fab i Louis Dduwiol, ymerawdwr Ymerodraeth y Ffranciaid, a'i wraig Ermengarde o Haspengouw. Fel Louis II roedd yn frenin Ffrancia Ddwyreiniol (yr Almaen yn ddiweddarach), ac yn nes ymlaen yn frenin Lotharingen fel Louis I.

Louis yr Almaenwr
Ganwydc. 806, 806 Edit this on Wikidata
Bu farw28 Awst 876, 876 Edit this on Wikidata
Frankfurt am Main Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
Swydddug Bafaria Edit this on Wikidata
TadLouis Dduwiol Edit this on Wikidata
MamErmengarde of Hesbaye Edit this on Wikidata
PriodHemma Edit this on Wikidata
PlantCarloman of Bavaria, Irmgard of Chiemsee, Louis III the Younger, Siarl Dew, Bertha, Hildegard, Gisela, Verona of Leefdaal, Veronus of Lembeek Edit this on Wikidata
LlinachY Carolingiaid Edit this on Wikidata

Bu farw Louis Dduwiol yn 840 a cheisiodd ei fab hynaf Lothair ddod yn ymeradwr dros deyrnas ei dad. Roedd dau arall o feibion Louis yn fyw, Louis yr Almaenwr a Siarl Foel, a gwnaethant gynghrair i wrthwynebu Lothair, gan ei orchfygu ym mrwydr Fontenoy-en-Puisaye yn 841. Yn 843, cytunodd y tri brawd ar Gytundeb Verdun, oedd yn rhannu'r ymerodraeth, gyda Siarl Foel yn derbyn Ffrancia Orllewinol (a ddaeth yn deyrnas Ffrainc yn ddiweddarach), Lothair I, oedd yn cael y teitl o ymerawdwr, yn derbyn Ffrancia Ganol (a enwyd yn Lotharingia) a Louis yr Almaenwr yn derbyn Ffrancia Ddwyreiniol.

Priododd yn 827 ag Emma, a chawsant nifer o blant: