Love Jones-Parry

gwleidydd (1832-1891)

Roedd Syr Thomas Duncombe Love Jones-Parry (5 Ionawr 183218 Rhagfyr 1891) yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros etholaeth Caernarfon ac yn un o sefydlwyr y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Love Jones-Parry
Ganwyd5 Ionawr 1832 Edit this on Wikidata
Nefyn Edit this on Wikidata
Bu farw18 Rhagfyr 1891 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Love Jones Parry ym 1832 yn fab i Syr Love Parry Jones-Parry a'i ail wraig Elizabeth Caldescott merch Thomas Caldescott, Holton Lodge, Swydd Lincoln. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Rugby a Choleg y Brifysgol, Rhydychen gan raddio ym 1850.[1]

Priododd Mrs Charlotte Bell Elliot, gweddw Fredrick A Elliot yn Llundain ym 1886, ni chawsant blant.[2]

Ei yrfa gyhoeddus golygu

Etifeddodd Love Jones-Parry stâd Madryn, gerllaw Nefyn ar ôl ei dad, Syr Love Parry Jones-Parry. Bu’n Uchel Siryf Sir Gaernarfon yn 1854. Roedd yn amlwg mewn cylchoedd eisteddfodol, lle’r adwaenid ef dan ei enw barddol "Elphin".

Daeth i amlygrwydd gwleidyddol pan enillodd sedd Sir Gaernarfon yn etholiad 1868, gan guro’r ymgeisydd Torïaidd, George Sholto Gordon Douglas-Pennant (yn ddiweddarach Barwn Penrhyn). Collodd y sedd hon yn yr etholiad nesaf, ond enillodd sedd Bwrdeistrefi Caernarfon yn 1882, a daliodd y sedd hyd 1886. Fe’i gwnaed yn Farwnig gan Gladstone am ei wasanaethau i’r Rhyddfrydwyr.

Y Wladfa golygu

Yn niwedd 1862 aeth Capten Love Jones-Parry gyda Lewis Jones i Batagonia i weld a oedd yn addas ar gyfer ymfudwyr Cymreig. Ariannwyd hyn yn bennaf gan Jones-Parry, a dalodd o leiaf £750 o'i boced ei hun. Cyraeddasant mewn llong fechan o’r enw "Candelaria", a gyrrwyd hwy gan storm i fae a enwyd ganddynt yn "Borth Madryn" ar ôl cartref Jones-Parry. Heddiw gelwir y dref a dyfodd gerllaw’r man y glaniodd y ddau yn Puerto Madryn. Yn dilyn adroddiad ffafriol gan Jones-Parry a Lewis Jones, hwyliodd mintai o 162 o Gymry yn y Mimosa yn 1865. Yn ddiweddarach bu beirniadu fod yr adroddiad wedi rhoi darlun camarweiniol o’r ardal; beirniadaeth ar Lewis Jones yn bennaf yn hytrach na Love Jones-Parry.

Marwolaeth golygu

 
Castell Madryn tua 1870

Bu farw Syr Love Jones-Parry yn ei gartref Plas Madryn, Pwllheli ar 18 Rhagfyr 1891 yn 59 mlwydd oed [3] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Llanbedrog.[4]

Llyfryddiaeth golygu

  • Trebor Evans Teulu Madryn (Pwllheli: Clwb y Bont, 1993)

Cyfeiriadau golygu

  1. Nicholas, Thomas; Annals and antiquities of the counties and county families of Wales T354 [1] adalwyd 14 Mawrth 2015
  2. Llangollen Advertiser 19 Tachwedd 1886 Marriage of Sir Love Jones-parry Bart [2] adalwyd 14 Mawrth 2015
  3. Cymro (Lerpwl A'r Wyddgrug), 24 Rhagfyr 1891 Marwolaeth Syr Love Jones Parry, Barwnig [3] adalwyd 14 Mawrth 2015
  4. North Wales Express 1 Ionawr 1892 Funeral of Sir Love Jones Parry [4] adalwyd 14 Mawrth 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
George Douglas-Pennant
Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon
18681874
Olynydd:
George Douglas-Pennant
Rhagflaenydd:
William Bulkeley Hughes
Aelod Seneddol dros Fwrdeistrefi Caernarfon
18821886
Olynydd:
Edmund Swetenham