Love Parry Jones-Parry

gwleidydd (1781-1853)

Roedd Syr Love Parry Jones-Parry (28 Tachwedd 178123 Ionawr 1853) yn Swyddog milwrol ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon.[1]

Love Parry Jones-Parry
Ganwyd28 Tachwedd 1781 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ionawr 1853 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
PlantSarah Elizabeth Margaret Jones-Parry Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Love Parry Jones yn Llundain yn fab i Thomas Jones, Llwyn Onn, Dinbych a Margaret (née Parry) merch a chyd etifeddes Love Parry, Rhydolion, Rhyd Fawr a'r Madryn. Pan ddaeth ystâd ei dad yng nghyfraith yn eiddo iddo ym 1807 newidiodd Thomas Jones a'i deulu eu cyfenw i Jones-Parry.[2]

Ym 1796 aeth Jones-Parry i Ysgol Westminster, ym 1799 aeth yn fyfyriwr i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen, gan raddio BA ym 1803 ac MA yn 1811. Ym 1802 cofrestrodd yn Lincoln's Inn fel efrydydd y gyfraith ond ni chymhwysodd fel bargyfreithiwr.

Bu'n briod ddwywaith. Ym 1806 priododd Sophia merch Robert Stephenson, bancwr o Binfield, Berkshire. Bu iddynt un mab (a fu farw'n blentyn) a thair merch. Ym 1826 priododd Elizabeth unig ferch Thomas Caldecott, Lincoln bu iddynt un mab, Thomas Duncombe Love Jones-Parry ac un ferch.[3]

Gyrfa Filwrol golygu

Ymunodd Jones-Parry a'r Fyddin ym 1794 yn 12 mlwydd oed, fel llumanwr ar hanner cyflog mewn catrawd a oedd eisoes wedi ei ddadfyddino, gan cael ei godi'n Is-gapten a Chapten tra'n disgybl ysgol a myfyriwr prifysgol. Ym 1804 cafodd ei benodi'n Uwchgapten yn 90ain Catrawd y Troed Filwyr. Ym 1811 cafodd ei ddyrchafu'n Is-gyrnol er anrhydedd ar y catrawd. Ym Medi 1811 daeth yn aelod llawn amser o'r fyddin gan wasanaethu fel Uwchgapten ar 103ydd Catrawd yn yr America gan orchymyn brigâd ar ffin Canada a'r UDA yn ystod Rhyfel 1812-1814 rhwng Prydain a'r UDA. Cafodd ei anafu yn Mrwydr Niagra ym 1813 a chael ei enwi mewn cad lythyron. Ym 1815 aeth yn ôl i fod yn filwr ar hanner cyflog fel Is-gyrnol. Cafodd ei ddyrchafu'n Gyrnol ym 1825, yn Uwchfrigadydd ym 1837 ac yn Is-gadfridog ym 1846.

Cafodd ei urddo'n farchog ym 1835 ac yn farchog yn yr Urdd Guelphic Brenhinol (KH) ym 1836.

Gyrfa Wleidyddol golygu

Cafodd Jones-Parry ei ethol fel AS Chwig ym 1806, dros etholaeth Horsham, Gorllewin Sussex, cafodd ei ail ethol ym 1807 ond ei ddisodli ar ddeiseb.

Bu'n AS Rhyddfrydol dros Fwrdeistrefi Caernarfon am un tymor rhwng 1835 a 1837. Safodd yn etholaeth yr Amwythig ym 1841 gan gael ei guro gan Benjamin Disraeli.

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Môn 1840-1841[4][5]

Marwolaeth golygu

Bu farw ym Madryn yn 72 mlwydd oed a rhoddwyd ei olion i orffwys yng nghladdgell y teulu yn Eglwys Llanbedrog.

Cyfeiriadau golygu

  1. H. M. Chichester, ‘Parry, Sir Love Parry Jones (1781–1853)’, rev. James Falkner, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Oct 2005 accessed 20 Dec 2015
  2. Y Bywgraffiadfur PARRY (a JONES-PARRY ) (TEULU), Madryn, Llŷn [1] adalwyd 15 Rhagfyr 2015
  3. Nicholas, Thomas, 1872 Cyf 1 T 354 Annals and antiquities of the counties and county families of Wales; containing a record of all ranks of the gentry ... with many ancient pedigrees and memorials of old and extinct families [2] adalwyd 20 Rhag 2015
  4. The History of Parliament on line JONES (afterwards JONES PARRY), Love Parry (1781-1853), of Madryn Park, Caern. [3] adalwyd 20 Rhagfyr 2015
  5. Williams, William Retlaw, 1895; T67 The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 [4] adalwyd 20 Rhag 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Ardalydd Fitzroy
Aelod Seneddol Horsham
18061807
Olynydd:
Henry Gouldburn
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Charles Paget
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon
18351837
Olynydd:
William Bulkeley Hughes